Cyngor Sir y Fflint
Iechyd a gofal cymdeithasol
- Gofal plant
- Cyflogi Plant
- Canllaw Gofal Plant
- Gwarchodwyr Plant
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint
- Ysgol y Goedwig Sir y Fflint
- Help gyda chost gofal plant
- Cynllun Chwarae yn Ystod Gwyliau
- Canllaw am Feithrinfeydd
- Clybiau y tu allan i oriau ysgol
- Grwpiau Rhieni a Phlant Bach
- Cynllun Chwarae yn ystod Gwyliau
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Gwasanaethau
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Gofal plant
- Help gyda chost gofal plant
Help gyda chost gofal plant

Os hoffech ragor o wybodaeth am ddewis gofal plant, yr help sydd ar gael gyda chost gofal plant, neu os hoffech gael hyd i leoliad gofal plant lleol, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth Plant Sir y Fflint ar 01244 547017 neu anfon ymholiad (bydd hyn yn agor e-ffurflen). Nid oes cost am y wasanaeth ac rydyn ni’n rhan o Gyngor Sir y Fflint.
Credyd Treth Gwaith
Mae’r Credyd Treth Gwaith yn ychwanegu at enillion y rheini â swyddi sy’n talu llai (â phlant neu hebddyn nhw), gan sicrhau fod gwaith yn talu mwy na budd-daliadau. Mae’r Credyd Treth Gwaith yn cynnwys elfen gofal plant a fydd yn talu hyd at 80% o gostau gofal plant, hyd at uchafswm o £175 yr wythnos am un plentyn (yn gyfwerth â chredyd o hyd at £140 yr wythnos) a £300 yr wythnos am ddau neu ragor o blant (yn gyfwerth â chredyd o hyd at £240 yr wythnos).
I wneud cais am yr elfen gofal plant, rhaid i unig rieni weithio 16 awr neu ragor. Gall cyplau wneud cais:
- os yw’r ddau’n gweithio 16 awr neu ragor; neu
- os yw un yn gweithio 16 awr neu ragor yr wythnos ac mae’r llall yn analluog, yn yr ysbyty neu yn y carchar.
Bydd yr elfen gofal plant yn cael ei ychwanegu at faint o Gredyd Treth Gwaith yr ydych yn gymwys i’w gael ac mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’r prif ofalwr. Bydd y swm terfynol y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich incwm (neu gyd-incwm, os ydych yn un o gwpl).
Mae costau gofal plant sy’n gymwys er mwyn cael yr elfen gofal plant yn cynnwys taliadau i:
- Ofalwyr plant wedi’u cofrestru, meithrinfeydd, cynlluniau chwarae, clybiau y tu allan i oriau ysgol
- Ysgolion penodol neu sefydliadau eraill sydd wedi’u heithrio rhag cofrestru
- Darparwyr gofal plant i blant 8 oed neu ragor, sydd wedi’u cymeradwyo gan sefydliadau wedi’u hachredu’n benodol
- Gofalwyr yn y cartref sydd wedi’u cymeradwyo
Cysylltu
I weld a ydych yn gymwys neu i gael pecyn hawlio, ffoniwch 0845 300 3900, mae’r llinellau ar agor rhwng 8yb – 8yh, saith diwrnod yr wythnos. Neu ewch i http://www.hmrc.co.uk (ffenestr newydd)
Cymhorthdal Gofal Plant I Unig Rieni
Mae Cymhorthdal Gofal Plant ar gael i rai sy’n cymryd rhan ym Margen Newydd y Ganolfan Waith i Unig Rieni, sy’n dechrau gweithio rhan-amser lai nag 16 awr yr wythnos. Nid yw ar gael i unig rieni sydd eisoes yn gweithio.
Efallai bod help ar gael tuag at gost gofal plant, tra bod unig riant yn gweithio, hyd at uchafswm o £87.50 yr wythnos am un plentyn a £150 yr wythnos am ddau neu ragor o blant.
Rhaid i ymgynghorydd y Ganolfan Waith, cyn i’r swydd ddechrau, gymeradwyo’r cymhorthdal gofal plant. Os caiff ei gymeradwyo, telir y cymhorthdal gofal plant am uchafswm o 52 wythnos ar ôl i’r unig riant ddechrau gweithio’n rhan amser, ac fe’i telir yn uniongyrchol i’r darparwr gofal plant.
Cymorthdal Gofal Plant – Cymhwyster Swydd
Os yw’r unig riant yn gymwys i gael y Cymhorthdal Gofal Plant, i fod yn gymwys am y Cymhorthdal Gofal Plant, rhaid :
- ystyried y swydd yn un addas, gan gydymffurfio â rheoliadau deddfwriaeth cyflogaeth;
- gwneud y swydd am hyd at 16 awr yr wythnos;
- i’r swydd fod yn waith â chyflog (nid gwaith gwirfoddol na phrofiad gwaith);
- bod disgwyl i’r swydd bara 5 wythnos, o leiaf;
- i’r swydd gael ei gwneud ar argymhelliad ymgynghorydd unig rieni y Ganolfan Waith, fel rhan o gynllun gweithredu y cytunwyd arno ar gyfer dychwelyd i weithio;
- i’r swydd fod yn y DG ac yn amodol ar ddeddfwriaeth a threthiant cyflogaeth yr DG;
- i’r unig riant beidio â bod wedi dechrau ar y swydd eisoes pan fydd yn ymuno â’r Fargen Newydd i Unig Rieni.
Dylai unrhyw unig rieni sydd â diddordeb mewn gwneud cais am y cymhorthdal gofal plant, gysylltu â’r Fargen Newydd i Unig Rieni ar rhif ffôn 0800 868868 neu testun 0808 100 8680, am ragor o wybodaeth cyn dechrau’r gwaith rhan amser.
Cymorth ar Gost Gofal Plant I Unig Rieni
Mae Canolfan Gwaith Plws wedi sefydlu cronfa fydd ar gael i pob unig riant sydd yn cymeryd rhan yn y Fargen Newydd. Bydd y gronfa yma yn talu am ofal plant swyddogol yn ystod yr wythnos cyn y mae unig riant yn dechrau gweithio. Am fwy o fanylion, ffoniwch 0800 731 9849.
Cronfa Cymorth I Ddysgwyr
Mae cronfeydd cymorth i ddysgwyr (ffenestr newydd) ar gael i fyfyrwyr amser llawn a rhan amser ar gyrsiau addysg bellach ac uwch. Eu bwriad yw rhoi help ariannol i fyfyrwyr unigol sydd â thrafferthion ariannol. Telir yn ôl anghenion myfyrwyr unigol ac mae faint o arian sydd ar gael yn gallu amrywio rhwng colegau. Yn aml mae modd defnyddio’r cronfeydd hyn i dalu am ofal plant.
Cysylltu
Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr Coleg Glannau Dyfrdwy: (01244) 834511
E-bost: ymholiadau@deeside.ac.uk
Gwefan: http://www.deeside.ac.uk (ffenestr newydd)
Gweithio Hyblyg
Gall patrwm gweithio hyblyg fod yn ateb delfrydol i gydbwyso cyfrifoldebau bywyd y teulu a bywyd gwaith yn fwy effeithiol. Mae nifer cynyddol o gyflogwyr rŵan yn cyflwyno amrediad o bolisïau hwylus i’r teulu sy’n caniatáu i’w gweithwyr gael y cydbwysedd hwn a gwella ansawdd eu bywydau a bywydau’u teuluoedd. Gallai gweithio hyblyg olygu llai o angen am ofal plant, felly efallai byddai’n werth ystyried hyn yn bosibilrwydd os ydych yn gweithio ar hyn o bryd. Nid yw’n ofynnol i gyflogwyr gynnig trefniadau gweithio hyblyg, ond mae gan weithiwr yr hawl i ofyn am weithio hyblyg ac mae’n ddyletswydd ar y cyflogwr i ystyried pob cais o ddifrif.
Dim ond er mwyn helpu gweithiwr i ofalu am blentyn y mae modd gwneud cais. Rhaid i riant/gofalwr fodloni’r meini prawf canlynol i fod yn gymwys i wneud cais am weithio hyblyg:
- Bod yn weithiwr
- Bod â phlentyn dan chwech oed, neu dan ddeunaw os yw’n anabl
- Gwneud y cais bythefnos cyn pen-blwydd priodol y plentyn, fan bellaf
- Bod yn gyfrifol am fagu’r plentyn ac yn gwneud y cais i’w alluogi i ofalu am y plentyn
- Bod naill ai’n: - fam, tad, mabwysiadwr, gwarchodwr neu riant maeth y plentyn – neu’n briod â neu’n bartner i fam, tad, mabwysiadwr, gwarchodwr neu riant maeth y plentyn.
- Bod wedi gweithio i gyflogwr am 26 wythnos parhaol ar y diwrnod mae’r cais yn cael ei wneud
- Peidio bod yn weithiwr asiantaeth neu yn aelod o’r lluoedd arfog
- Fod heb wneud cais arall i weithio’n hyblyg o dan y hawl yma yn ystod y 12 mis diwethaf
Arferion Gweithio Hyblyg
- Gweithio rhan-amser
- Amser hyblyg: Lle gallwch amrywio’ch oriau ond bod gennych oriau craidd sefydlog a gallwch gymryd yr oriau yr ydych wedi’u crynhoi fel gwyliau hyblyg.
- Rhannu swydd: rhannu swydd rhwng dau unigolyn
- Gweithio yn ystod y tymor: Cewch fod mewn swydd barhaol amser llawn neu ran amser ac yn cymryd gwyliau di-dâl yn ystod gwyliau ysgol a gytunwyd. Efallai bydd eich cyflog wedi’i rannau ar gyfartaledd dros y flwyddyn.
- Gweithio yn ystod oriau ysgol
- Oriau cywasgedig: yn gweithio rhagor o oriau’r dydd, ond llai o ddyddiau’r wythnos.
- Amser gwirfoddol: Gostyngiad gwirfoddol mewn oriau. Mae’n caniatáu i chi gwtogi’ch amser yn y gwaith o gyfnod y cytunwyd arno.
- Gweithio o gartref
Arian I Rai Tair Oed Neu Grant Addysg Cynnar
Mae arian ar gael rŵan i blant 3 oed yn Sir y Fflint gael addysg gynnar y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.
Gall eich plentyn gael lle mewn man sydd wedi’i gymeradwyo gan Sir y Fflint am NAILL ai sesiwn o ddwy awr i o leiaf, o ddydd Llun tan ddydd Gwener, NEU sesiwn o ddwy awr a hanner dros bedwar diwrnod yn ystod yr wythnos.
Gallai ‘man sydd wedi’i gymeradwyo’ fod yn:
- gylch chwarae
- meithrinfa ddydd breifat
- gofalwr plentyn sy’n rhan o grŵp rhwydwaith gofalu am blant
- dosbarth meithrin neu uned blynyddoedd cynnar mewn ysgol leol
- Gallwch wneud cais drwy lenwi ffurflen gofrestru/gais yn y lleoliad.
- Gallwch wneud cais am arian mewn un lleoliad yn unig. Mae’r arian yn mynd yn uniongyrchol i’r lleoliad bob hanner tymor.
- Bydd plant y mae eu pen-blwydd yn ystod Tymor yr Hydref yn cael arian am 2 dymor (y Gwanwyn a’r Haf)
- Bydd plant y mae eu pen-blwydd yn ystod Tymor y Gwanwyn yn cael arian am 1 tymor (yr Haf)
Pa leoliad bynnag y bydd eich plentyn yn mynd iddo ar gyfer y cyfnod ‘hawl cynnar’, mae polisi addysg feithrin Sir y Fflint yn gymwys o’r mis Medi ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed h.y. dim ond y dosbarth meithrin ysgol agosaf at eich cartref y gall eich plentyn fynd iddo.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â’ch cylch chwarae lleol, gofalwr plant rhwydwaith, dosbarth meithrin ysgol neu feithrinfa ddydd breifat a holwch a ydyn nhw’n cynnig y grant hwn. Neu, am restr o fannau yn Sir y Fflint sy’n cynnig y grant hwn, ffoniwch Gwasanaeth Gwybodaeth Plant Sir y Fflint ar (01244) 547017 neu Tîm Cyfle Cynnar ar (01244) 545979.
Grant Cymorth Gofal Plant
Gall y Grant Cymorth Gofal Plant gynorthwyo anghenion plant sy’n mynychi gofal plant cofrestredig yn Sir y Fflint. Gall ddarparu arian cymorth i:
- deuluoedd di-waith neu ar incwm isel neu
- rhieni a gofalwyr ifanc sy’n ymgymryd ag addysg/hyfforddiant pellach
- teuluoedd â phlant ag anghenion arbennig
O fis Ebrill 2007 ymlaen, £12 yr wythnos am dri thymor ysgol yw’r uchafswm y plentyn sydd ar gael.
Fodd bynnag, oherwydd cyllideb gyfyngedig, bydd grantiau’n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Am ragor o fanylion, cysylltwch â goruchwyliwr eich cylch chwarae, y darparwr gofal plant neu swyddfa’r Bartneriaeth Gofal Plant (01352) 702634.
Grantiau Gofal Plant
Os hoffech lenwi’r ffurflenni hyn yn electronig yn fformat Word, gwnewch gais drwy anfon e-bost at GGiDSyFf@siryfflint.gov.uk. Os hoffech lenwi’r ffurflen â llaw, argraffwch y fersiwn pdf hon a’i hanfon i’r cyfeiriad post a nodir ar y ffurflen.
Grant Cynnal Gofal Plant (PDF.doc 159KB ffenestr newydd)
Grant Lleoedd A Gynorthwyir (PDF.doc 98KB ffenestr newydd)
Grant I Blant Cyn-ysgol Ag Anableddau (PDF.doc 136KB ffenestr newydd)
Grant I Blant Cyn Oed Ysgol A Chanddynt Anabledd Ffurflen Werthuso (PDF.doc 136KB ffenestr newydd)
Grant Lleoedd A Gynorthwyir Ffurflen Werthuso (PDF.doc 42KB ffenestr newydd)
Grant Cynnal Gofal Plant: Monitro (PDF.doc 66KB ffenestr newydd)
Talebau Gofal Plant
Mae modd defnyddio talebau gofal plant i dalu am ofal plant yn unig ac mae modd defnyddio’r mathau canlynol o ofal plant: Gofalwyr Plant Cofrestredig, Clybiau y tu allan i Oriau Ysgol, Cylchoedd Chwarae Sesiwn/Gofal Dydd, Cynlluniau Chwarae’r Gwyliau, Crèches, Meithrinfeydd Dydd Preifat Cofrestredig.
Maneision I Rieni/Gofalwyr Sy’n Gweithio - Mae talebau gofal plant yn ffordd gost effeithiol o dalu am gostau gofal plant. Nid oes rhaid talu Cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol ar y talebau a bydd y £55 cyntaf yr wythnos a roddir mewn talebau yn rhydd rhag treth. Felly mae cyflogwyr a gweithwyr yn arbed arian. Er enghraifft, os mai £220 yw’ch cyflog wythnosol, ac rydych yn prynu £40 mewn Talebau Gofal Plant, dim ond ar £180 y byddwch yn talu Cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol a threth. Rhwydd hynt i chi benderfynu faint o’ch cyflog yr ydych am ei ddefnyddio a gallwch ddewis talu am y cyfan neu ran o’ch costau gofal plant drwy dalebau gofal plant. Mae modd defnyddio talebau am ragor nag un plentyn a rhagor nag un gofalwr.
Cyflogwyr - Rhaid i’ch cyflogwr gytuno i ddarparu gwasanaeth talebau gofal plant. Pan fydd eich cyflogwr wedi cofrestru ar gynllun talebau, byddwch yn cael y talebau gan eich cyflogwr ac yn eu defnyddio i dalu am ofal plant.
Darparwyr Gofal Plant – Mae angen i ddarparwyr gofal plant gytuno i dderbyn talebau gofal plant. Pan fyddan nhw’n cytuno i gofrestru ar gynllun talebau, byddan nhw’n cael y talebau gan riant/gofalwr fel tâl. Wedyn bydd angen postio’r talebau at y cwmni cynllun talebau perthnasol a fydd yn talu’r swm a ddangosir ar y daleb.
Mae nifer o gynlluniau talebau gofal plant ar gael, yn amrywio o gynlluniau cwmni i gynllun meithrinfa’i hun, ac mae’r canlynol yn rhai o’r cynlluniau talebau gofal plant. Am ragor o fanylion am dalebau gofal plant, ewch i wefan yr ymddiriedolaeth gofal ddydd (ffenestr newydd)
- Busy Bees
Llinell ffôn am ddim: 0800 0430 860
Ffacs: 01543 419144
Gwefan: http://www.busybees.com (ffenestr newydd)
E-bost: voucherenquiries@busybeesvouchers.com
· - Westminster Vouchers Company
Rhadffon: 0800 0834 319
Ffacs: 020 8270 0533.
Gwefan: http://www.westminstervouchers.com (ffenestr newydd)
E-bost: Info@westminstervouchers.co.uk
- Accor Services
Ffôn: 0845 330 4433
Gwefan: http://www.childcarevouchers.co.uk (ffenestr newydd)
E-bost: helpline@accorservices.co.uk
- Childcare Options Limited
Ffôn: 0161 4832209
Gwefan: vouchers4kids.com (ffenestr newydd)
E-bost: vouchers@btinternet.com
- Sodexho Pass
Ffôn: 01276 687 000
Gwefan: https://www.childcarepass.co.uk (ffenestr newydd)
Ebost: info@sodexhopass.co.uk
- Gemelli Childcare Vouchers
01280 851113
Website: www.GemelliChildcareVouchers.co.uk (ffenestr newydd)
Email:enquiries@GemelliCCV.co.uk
Meithrinfeydd Gweithleoedd/Cynlluniau Aberthu Cyflog
Mae meithrinfeydd gweithleoedd (a/neu gynlluniau chwarae yn ystod gwyliau’r ysgol) yn cynnig gofal plant i weithwyr. Os nad yw’n addas creu darpariaeth felly, gall cyflogwyr ddatblygu contract gyda meithrinfa leol. Yn yr achos hwn, mae angen i’r cyflogwr fod yn gyfan gwbl am ariannu a rheoli’r darparu gofal neu’n rhannol gyfrifol amdano. Mae taliadau tuag at feithrinfa’r gweithle ar ran gweithwyr (o bosib fel rhan o aberthu cyflog) yn rhydd rhag taliadau treth ac yswiriant cenedlaethol, felly’n arbed arian i’r gweithiwr.
Cliciwch yma i wneud ymholiad ynglyn â'r gwasanaeth hwn
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


