skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Iechyd a gofal cymdeithasol > Gofal plant a theuluoedd > Amddiffyn Plant

Amddiffyn Plant


Tudalennau cysylltiedig yn yr ardal hon

Dylai unrhyw un sy’n poeni neu am blentyn sy’n cael ei niweidio yn Sir y Fflint neu sy’n amau bod hyn yn digwydd, gysylltu â

Y Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd, Tîm Dyletswydd ac Asesu, Gwasanaethau Plant,

Swyddfeydd y Cyngor, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 4HB

Ffôn: 01352 701000

Os hoffech gysylltu y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd ar 0845 0533116

Mae Cyngor Sir y Fflint, fel pob Awdurdod Lleol yn y DG, yn gyfrifol am arwain a chydlynu gwasanaethau amddiffyn plant yn y sir (nid yw hyn yn golygu ymchwilio i droseddau neu erlyn troseddwyr sy’n rhan o gyfrifoldebau Heddlu Gogledd Cymru). Diffinnir rhai dyletswyddau penodol mewn Deddf Seneddol - “Deddf Plant 1998”.

Mae’r Gwasanaethau Plant, cangen o Adran Addysg y sir, yn ymgymryd â’r dyletswyddau hyn gan weithio’n agos ag ysgolion a rhannau eraill o’r Adran Addysg, Heddlu Gogledd Cymru, asiantaethau a phersonél Iechyd amrywiol megis Meddygon ac Ymwelwyr iechyd, ac asiantaethau, cyrff a phobl eraill sydd â chyfrifoldebau yn y maes hwn. Mae’r angen hwn i gydweithio i gyrraedd nod cyffredinol (amddiffyn plant rhag niwed arwyddocaol) yn cael ei gynllunio a’i fonitro gan y Pwyllgor Amddiffyn Plant Rhanabarthol, sefydliad sirol sy’n cynnwys aelodau o’r holl asiantaethau hyn. Mae’r Pwyllgor hwn yn llunio cyfres o “Weithdrefnau Amddiffyn Plant” sy’n galluogi unigolion a chyrff â swyddogaethau amrywiol gydweithio mewn ffordd gydlynol.

Mae rhagor o wybodaeth am amddiffyn plant yn Sir y Fflint i’w chael gan y:

Cydlynydd Amddiffyn Plant, Gwasanaethau Plant, Neuadd y Sir Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6ND

Ffôn: 01352 702601 or 702602 neu anfon ym holiad

Diweddarwyd: 11/26/09 11:36 AM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.