Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NB
Cysylltwch â ni
01352 752121
Sut i gyrraedd yma
Cyngor a chefnogaeth i blant mewn gofal

Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ddweud eu dweud am y gwasanaethau gofal cymdeithasol y maent yn eu cael. Gall dweud eich barn wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol arwain at newid. Bydd eich adborth yn ein helpu ni i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda, a ble y gallwn wella.
- Y Grŵp “Speaking Out for Children in Care”
- Rhydwaith Cymorth Ymadawyr Gofal
Os ydych chi’n ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant ac yn awyddus i ymuno â’r Grŵp S.C.C. neu fynychu digwyddiad Dweud eich dweud yn y dyfodol, cysylltwch ag Alison ar 01352 702655.
Neu os yw’n well gennych, gallwch anfon e-bost at Alison, ar speak-out@hotmail.co.uk neu anfon ymholiad at y gwasanaeth hwn
Rhagor o wybodaeth
- Eich cadw chin ddiogel mewn gofal
- Canllaw plant i faethu
- Sut beth ydy gofal maeth – canllaw i bobl ifanc
- Rhifau ffôn, gwefannau a chyfeiriadau e-bost defnyddiol
- Tyfu’n oedolyn
- Canllaw i bobl ifanc rhianta corforaethol yn Sir y Fflint
- Cerdyn Post Fforwm y Gwasanaethu Plant
- Beth yw adolygiad
- Gwasanaeth Dyletswydd Argyfwng Gogledd Ddwyrain Cymru
- Plant sy’n byw oddi cartref
- Cyfarfod grwp teulu
- Gwasanaethau defnyddiol I blant pobl ifanc a theuluoedd yn sir y fflint
- Eich Hawl I Fynegi Barn, I Ganmol ac I Gwyno
- Beth yw nyrse plant sy'n derbyn gofal?
Cylchgrawn Who Cares?
Mae "Who Cares? Junior" yn gylchgrawn i blant sy’n derbyn gofal rhwng 8 - 12 oed.
Mae "Who Cares?" yn gylchgrawn i unigolion yn eu harddegau mewn gofal ac sy’n gadael gofal.
Os ydych yn derbyn gofal gan Wasanaethau Cymdeithasol i Blant, neu gyda rhan yn Nhîm Ymadael â Gofal, byddwch yn derbyn copi am ddim yn y post. Os nad ydych wedi derbyn eich copi ffoniwch 01352 702655 ac fe wnawn ni anfon un atoch.
Balchder Sir y Fflint
Bob blwyddyn mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu cyflawniadau a llwyddiannau plant sy’n derbyn gofal ac sy’n gadael gofal yng NGWOBRAU BALCHDER SIR Y FFLINT. Cynhelir y seremoni nesaf ym Medi 2010.
Fforwm Gwasanaethau Plant
Os ydych yn blentyn yn derbyn gofal gan Gyngor Sir y Fflint mae gennych linell uniongyrchol i uwch reolwyr a chynghorwyr sir.
