skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Iechyd a gofal cymdeithasol > Gofal plant a theuluoedd > Fforwm Gwasanaethau Plant

Fforwm Gwasanaethau Plant


Beth yw Rhiantu Corfforaethol?

Rhiantu corfforaethol yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio cyfrifoldeb Cyngor Sir y Fflint at blant a phobl ifanc sy’n ‘derbyn gofal’, hynny yw, y rhai sydd mewn gofal cyhoeddus. 

Mae rhiantu corfforaethol da yn gofyn am waith gan yr awdurdod cyfan i ofalu a gwarchod plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.   Dylai pob aelod o staff, pob Cyfarwyddiaeth, pob maes gwasanaeth a phob Aelod Etholedig ofyn: “Pe byddai hwn yn blentyn i mi a fyddai hyn yn ddigon da iddo?”

Mae gan Aelodau Etholedig rôl arweiniol mewn sicrhau bod Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu fel rhiant corfforaethol effeithiol ac yn gweithredu’n bositif i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc yn derbyn gofal.  

Bydd llawer o’r plant yma wedi bod drwy gyfnodau anodd ac angen help oedolion grymus gyda’r cyfrifoldeb o weithredu fel eu rhieni corfforaethol. 

Beth yw’r Fforwm Gwasanaethau Plant?

Sefydlodd Cyngor Sir y Fflint y Fforwm Gwasanaethau Plant fis Ebrill 2005.  Mae’r Fforwm yn cyfarfod bob chwarter a dyma lle canolbwyntir fwyaf ar wella gwasanaeth ar gyfer plant yn derbyn a rhai sy’n gadael gofal. 

Mae’n monitro cynnydd yn erbyn Strategaeth a Chynllun Gweithredu Rhiantu Corfforaethol ac yn derbyn adroddiadau rheolaidd oddi wrth Swyddogion ynghylch y gwasanaethau a ddarperir i bobl ifanc.  Gwahoddir Rheolwyr Tîm, Ymarferwyr, Swyddogion Perfformiad a Swyddogion Cynllunio yn rheolaidd i’r Fforwm i gyflwyno adroddiadau ac achosion o ddiddordeb arbennig. 

Bydd y Prif Weithredwr, Aelodau Etholedig a Chyfarwyddwyr yn mynychu’r Fforwm yn ogystal â dau o bobl ifanc o’r Grŵp “Speaking Out for Children in Care”  a’r Rhwydwaith Cefnogi Gadawyr Gofal. 

Mae ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau fod plant yn derbyn gofal yn cael eu cynrychioli ar y Fforwm ac yn chwarae rhan arweiniol.  Cynhelir cyfarfodydd y tu allan i oriau ysgol, cefnogir pobl ifanc gan aelod o staff ac maen nhw’n cael eu trin fel partneriaid cyfartal.

Yng ngeiriau un person ifanc: “Mae’r Fforwm yn edrych ar stwff fel addysg ac iechyd sy’n bwysig i blant yn derbyn gofal.  Mae’n golygu eu bod nhw’n cael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd.” 

Mae aelodau’r Fforwm yn gofyn yn barhaus: “Pe byddai hwn yn blentyn i mi a fyddai hyn yn ddigon da iddo?” Mewn geiriau eraill, mae’r Fforwm yn hyrwyddo achos plant yn derbyn ac yn gadael gofal.  Mae’n goruchwylio sut y mae’r Cyngor yn ysgwyddo ei gyfrifoldebau rhiantu corfforaethol. 

Rwy’n Berson Ifanc – Sut alla i gysylltu â’r Fforwm Gwasanaethau Plant?

Os ydych yn blentyn yn derbyn gofal gan Gyngor Sir y Fflint mae gennych linell uniongyrchol i uwch reolwyr a chynghorwyr sir. 

Sut?
Drwy’r Fforwm Gwasanaethau Plant?

Be di hwn?
Mae’n grŵp o uwch swyddogion a chynghorwyr sir sy’n cyfarfod bob tri mis i drafod sut y gallwn gyfarfod anghenion plant a phobl ifanc Sir y Fflint.

Beth sydd raid i mi ei wneud?
Os oes gennych gwestiwn neu broblem ynghylch eich gofal, printiwch y cerdyn post isod a’i anfon at y Fforwm – DOES DIM ANGEN STAMP.  Bydd y Fforwm yn anfon ateb atoch. 

Cerdyn Post Fforwm y Gwasanaethu Plant

Canllaw i bobl ifanc rhianta corforaethol yn Sir y Fflint

Diweddarwyd: 7/30/09 1:15 PM
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website External link to Get Safe Online Transport Direct
External link to Flintshire County Council Twitter External link to Flintshire County Council You Tube Link to RSS feeds
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dolenni i wefannau allanol
Directgov Link to be used in ain site areas

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Graddiwch y dudalen hon



Dewiswch y nifer o sêr i raddio'r dudalen hon.