skip navigation  |  Gwrandewch ar y wefan  |  Darpariaeth help
a  a  a     
Flintshire County Council / Cyngor Sir y Fflint fcc
www.siryfflint.gov.uk
Cysylltwch â ni 01352 752121
Gwasanaethau A-Y
A B C D E F G H I L M N O P Q R S T U W Y
Dyma’n manylion cysylltu

Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NB
Cysylltwch â ni

01352 752121
Sut i gyrraedd yma

Rydych chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Busnes > Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2008

Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2008


Flintshire Business Week Logo

sifyfflint.gov.uk/wythnosfusnes

Cynhelir ail Wythnos Fusnes flynyddol Sir y Fflint o 29 Medi tan 8 Hydref 2008.

Yn y rhaglen eleni (766Kb PDF) mae dros 30 o ddigwyddiadau gan gynnwys:

  • Seremoni Gwobrwyo Busnesau a Chinio Gala
  • Ymweliad â San Steffan
  • Sioe Eiddo Masnachol
  • Seminarau
  • Siaradwyr adnabyddus
  • Gweithdai
  • Ymweliadau â ffatrïoedd
  • Cyfarfodydd dros frecwast
  • Ciniawau busnes
  • Swperau gweithio
  • Ffair Swyddi Lleol
  • Arddangosfa’r Sector Gwirfoddol
  • Cyfleoedd i Rwydweithio
  • Pamffledyn Llawn ar Gael (1.8Mb PDF)

Cewch fanylion am yr hyn sydd ymlaen yn y rhestr ar ochr chwith y dudalen hon. 
Mae’r holl ddigwyddiadau hyn yn bosibl diolch i’n noddwyr (452Kb PDF) sydd wedi darparu lleoliadau a siaradwyr. Cewch wybodaeth am y siaradwyr ym mhob digwyddiad yn ein dogfen siaradwyr

Mae busnesau bach a mawr Sir y Fflint hefyd wedi noddi’r deg Gwobr Busnes eleni, ac mae manylion y rhain i’w cael yn  ein Llyfryn Gwobrau Busnes (309Kb PDF).

Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd yn hwyluso’r Arddangosfa Eiddo gyntaf i’w chynnal yn yr ardal a chewch ragor o fanylion yn ein Taflen Sioe Eiddo (187Kb PDF).

Nod Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2008 yw adeiladu ar lwyddiant y llynedd a rhoi cyfle i fusnesau rwydweithio a dathlu eu llwyddiant yn y sir.

'Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn o fedru cynnal Wythnos Fusnes Sir y Fflint am yr eildro. Mae economi leol gref yn hanfodol i ddyfodol y sir ac i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma ac mae angen busnesau lleol cryf i sicrhau hynny. Gobeithio y daw’r Wythnos Fusnes yn rhan bwysig o’r calendr lleol i gwmnïau hen a newydd, gan eu helpu nhw i’w hyrwyddo’u hunain a’r sir fel lle da i wneud busnes.’
Y Cynghorydd Mel Higham, yr Aelod Gweithredol dros Adfywio a Thwristiaeth, 2008

Mae croeso i holl fusnesau Sir y Fflint gymryd rhan fel partneriaid neu gynrychiolwyr.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chydlynydd yr Wythnos Fusnes ar:
01352 703219
businessweek@flintshire.gov.uk

Cysylltwch â

Gwasanaethau Busnes Sir y Fflint
Post: Canolfan Fusnes Maes  Glas, Maes Glas, Treffynnon, Sir y Fflint, CH8 7GR
Rhif ffôn: 01352 703048
Ffacs: 01352 703050
Anfonwch ymholiad ar-lein i’r gwasanaeth

page icon Gwybodaeth yn yr adran hon
Gwybodaeth am Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2007 a dyfyniadau gan rai o fuddugwyr y Gwobrau Busnes y llynedd.
 
Link to Directgov - public services all in one place External link to the Welsh Assembly website Internet Content Rating Association Label - external link to the ICRA website External link to Get Safe Online Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales Aberystwyth
I want to... Ewch ati ar-lein
Useful documents logo Gwybodaeth ddefnyddiol
Useful information logo Dolenni defnyddiol
logo external links Dolenni i wefannau allanol
Directgov Gwasanaethau cyhoeddus i gyd mewn un lle

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol