Fforwm Mynediad Lleol
Beth yw’r Fforwm Mynediad Lleol?
Rhoddodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ddyletswydd statudol ar bob awdurdod priffyrdd a pharc cenedlaethol i sefydlu a chynnal Fforwm Mynediad Lleol yn ei ardal. Swyddogaeth y Fforwm yw cynghori’r awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch materion yn ymwneud â mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal.Caiff aelodau eu penodi am dair blynedd (dechreuodd tymor gwasanaeth aelodau presennol y Fforwm fis Ionawr 2015 a daw i ben fis Rhagfyr 2018). Mae’r Cyngor Sir yn darparu Ysgrifennydd sy’n rhoi cymorth gweinyddol i’r Fforwm.Pan fydd angen penodi Fforwm newydd, bydd yr Ysgrifennydd yn gosod hysbysebion yn lleol a chysylltu â grwpiau o ddefnyddwyr a chyrff perthnasol i annog pobl leol i ddatgan diddordeb. Fodd bynnag, caiff aelodau o’r Fforwm eu penodi fel unigolion, nid fel cynrychiolwyr unrhyw gorff neu grŵp o ddefnyddwyr.Wrth benodi aelodau i’r Fforwm, mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau eu bod yn cynnwys:
- defnyddwyr tir mynediad lleol a hawliau tramwy lleol
- perchnogion a deiliaid tir mynediad, a thir ac iddo hawliau tramwy
- pobl sydd â diddordeb penodol yn yr ardal
Ar hyn o bryd, mae 15 aelod o Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint, gan gynnwys un aelod a benodir i gynrychioli’r Cyngor Sir.Er mai’r Cyngor Sir sy’n penodi’r aelodau, mae’r Fforwm ei hun yn annibynnol ar y Cyngor.
Beth y mae’r Fforwm yn ei wneud?
ae’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, a bydd gweithgorau’n cyfarfod yn anffurfiol yn ôl yr angen i drafod materion penodol. Mae’r prif gyfarfodydd ar agor i’r cyhoedd. Mae cofnodion cyfarfodydd blaenorol a dyddiad y cyfarfod nesaf i’w gweld yma. Fel arfer, bydd y Fforwm yn cyfyngu ei thrafodaethau i’r agweddau mwy strategol sy’n effeithio ar hawliau tramwy a materion tebyg, oherwydd bod gan dîm Hawliau Tramwy’r Cyngor Sir weithdrefnau effeithlon ar waith i ymdrin â phroblemau penodol fel camfa ddiffygiol neu rwystr ar draws hawl tramwy (https://rightsofway.flintshire.gov.uk). Bydd yr Agenda ar gyfer y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn cynnwys eitemau a godir gan y Cyngor Sir (neu gan Gyfoeth Naturiol Cymru neu Lywodraeth Cymru weithiau), er mwyn cael cyngor y Fforwm yn eu cylch, a hefyd eitemau a godir gan y Fforwm ei hun. Bydd swyddogion y Cyngor Sir yn bresennol yn y cyfarfodydd i roi gwybodaeth am waith y Cyngor neu wybodaeth broffesiynol, yn ôl y galw.Dyma enghreifftiau o’r hyn y mae’r Fforwm wedi’i drafod yn ystod y blynyddoedd diwethaf:
- Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (a monitro sut y mae’n cael ei roi ar waith)
- Meini prawf i’w defnyddio wrth bennu blaenoriaethau o ran cynnal a chadw hawliau tramwy
- Diffinio mynegeion perfformiad i asesu cyflwr y rhwydwaith hawliau tramwy
- Cynghori tîm Glastir Llywodraeth Cymru ynghylch materion yn ymwneud â mynediad.
- Cyfrannu at waith y grŵp llywio a oedd yn goruchwylio’r gwaith o adeiladu’r rhan honno o Lwybr Arfordir Cymru sydd yn Sir y Fflint.
- Darparu mynediad i geffylau a materion diogelwch cysylltiedig
- Materion yn ymwneud â chŵn a ffermio
- Darparu llwybrau beicio diogel, gan gynnwys Llwybr yr Arfordir a llwybrau eraill yn y sir
- Gweithredu egwyddorion ‘mynediad lleiaf cyfyngedig’ lle bynnag y bo modd. Er enghraifft ar gyfer defnyddwyr llai abl
- Strategaeth Mannau Gwyrdd Sir y Fflint
- Amrywiaeth o geisiadau cynllunio a allai effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus. Dyma’r materion y mae’n disgwyl ymdrin â nhw yn ystod y misoedd nesaf
- Ymgynghori ynghylch papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru yn ymwneud â mynediad
- Gweithredu gofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn Sir y Fflint
- Adolygu a diweddaru’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy
- Defnyddio mynediad i fannau gwyrdd a chefn gwlad i hybu iechyd a lles
Sut y gallech chi fod yn rhan o’r gwaith?
Gallwch ddod i gyfarfodydd y Fforwm ac mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un o aelodau’r Fforwm (wedi’u rhestru isod) os ydych am dynnu sylw at fater penodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod yn y dyfodol, cysylltwch â’r Ysgrifennydd neu’r Cadeirydd (manylion isod).
Newyddion Diweddaraf 13/07/18 - Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint a Wrecsam