Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf - Hysbysiad o Ddyrannu Cymhorthdal
Mae cymhorthdal wedi cael ei ddyrannu mewn cysylltiad â “Gwasanaethau Hamdden”.
Mae’r Cyngor wedi cynnal asesiad o’r cymhorthdal, ac mae’r manylion allweddol fel a ganlyn.
Y derbynnydd/buddiolwr yw Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf (Aura).
Amcan y cymhorthdal yw darparu cyllid grant i alluogi’r Prosiect o’r enw “Gwasanaethau Hamdden”. Bydd y cyllid grant ar gyfer y Prosiect yn sicrhau fod gan breswylwyr Sir y Fflint fynediad at gyfleusterau hamdden a lles sy’n cyfrannu at ffyrdd iachach o fyw ac yn cefnogi gofynion gweithredol.
Mae’r Prosiect yn cynnwys darparu gwasanaethau hamdden, gan gynnwys canolfannau hamdden a chanolfannau defnydd deuol.
Mae’r cyllid hwn yn ofynnol yn sgil y costau gweithredu a gweithgarwch anfasnachol sylweddol sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau hygyrch a fforddiadwy, sef y materion y lluniwyd y cymhorthdal i fynd i’r afael â hwy.
Mae’n debygol y byddai peidio â darparu’r cymhorthdal hwn yn arwain at ddiffyg gwasanaethau hamdden cyhoeddus sy’n hygyrch, ar gael ac yn fforddiadwy i wahanol grwpiau mewn gwahanol ardaloedd. Heb y cymhorthdal hwn, ceir bwlch hyfywedd sylweddol ac mae’n annhebygol felly y byddai’r Prosiect yn cael ei gyflawni.
Mae darparu’r cymhorthdal hwn i Aura’n eu galluogi i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau na fyddai modd eu darparu heb y cymhorthdal ac sy’n helpu i gyflawni amcan y polisi.
Mae’r Prosiect yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r amcanion lles yn bennaf, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: Cymru Iachach.
Mae dadansoddiad o’r bwlch hyfywedd wedi llywio dyraniad y grant. Ystyrir bod hyn yn gymesur ag, ac yn gyfyngedig i, yr hyn sy’n ofynnol i gyflawni amcanion y polisi a amlinellir dan yr amgylchiadau presennol. Yn ogystal â hyn, cymerwyd camau i leihau unrhyw ganlyniadau negyddol.
Ebrill 2024 a Gorffennaf 2024