Archifau Ffrindiau Clwyd
Ym mis Ebrill, fe unodd Archifdy Sir y Fflint gydag Archifdy Sir Ddinbych. Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, neu AGDdC, yn cynrychioli gwasanaeth ar y cyd newydd ar gyfer Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae gennym ni un wefan erbyn hyn, ac fe fydd y wefan hon yn cael ei chau yn fuan.
Sefydlwyd Archifau Ffrindiau Clwyd yn 1994 i hybu a chefnogi gwaith y pedwar Archifdy yng Ngogledd-ddwyrain Cymru: Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint a Wrecsam. Mae ei brif weithgareddau’n cynnwys:
- Codi arian i brynu archifau neu offer ar gyfer archifdai
- Rhoi cefnogaeth wirfoddol ar gyfer prosiectau amrywiol archifdai
- Cyhoeddi’r Cylchgrawn Hanesydd Clwyd (Clwyd Historian)
- Ysgol ddyddiol bob blwyddyn â thema archif-berthnasol.
Mae gweithgareddau achlysurol yn cynnwys:
- Noson win a chaws (fel arfer mewn plasty yn y wlad);
- Cyfarfodydd mewn amrywiol leoedd yn yr ardal i wrando ar ddarlithoedd yn ymwneud ag archifau;
- Ymweliadau ag archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru a Gogledd-orllewin Lloegr.
Cyfarfodydd: Mae darlithoedd yn y blynyddoedd blaenorol wedi cynnwys darlithoedd ar archifau llafar, cofnodion Llysoedd Chwarter, archifau gwleidyddol, a datblygiadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ysgolion dydd: Mae’r rhain yn cael eu cynnal fel arfer ym Mawrth ac yn ddiweddar maen nhw wedi cael eu trefnu gyda themâu Llongau ar yr Afon Dyfrdwy; Amddiffyn y Deyrnas: Gwirfoddolwyr yng Ngogledd Cymru 1870-1945; a Chlwyd a’i Haneswyr.
Hanesydd Clwyd (Clwyd Historian): Cyfnodolyn sy’n cael ei gyhoeddi’n rhad am ddim ddwywaith y flwyddyn i aelodau. Mae’n cynnwys erthyglau ar amrywiaeth eang o bynciau sy’n ymwneud â hanes lleol ac archifau, ac adroddiadau ar y datblygiad diweddaraf yn y storfeydd archifau lleol. Y golygydd yw Paul Mason, Tan yr Odyn, Ffordd Rhuthun, Gwernymynydd, Sir Fflint, CH7 5LQ.
Aelodaeth:
Cewch ragor o wybodaeth gan yr Ysgrifennydd Aelodaeth: Derek Jones, Fron Haul Isa, Llanfynydd, Wrexham, LL11 5HP, ffȏn: 01352 771306, e-bost: fronhaulisa@btinternet.com.
Ffurflen Ymaelodi/Adnewyddu Aelodaeth. Y tanysgrifiad blynyddol yw £10. Dylid anfon y tanysgrifiadau at y trysorydd: David Kay, 11 The Avenue, Trueman Way, Penarlâg, Sir y Fflint, CH5 3RZ.
Ymholiadau:
Dylid cyfeirio’r holl ymholiadau eraill at yr Ysgrifennydd Mygedol: Roy Coppack, Bryn Gwyn, 2, Rhodfa Annwyl, Rhuddlan, Sir Ddinbych, LL18 2SQ.
Rhif Elusen Gofrestredig: 1047418