Archifau ar gyfer Ysgolion
Yn Archifdy Sir y Fflint, rydym yn gofalu am nifer o gofnodion cyhoeddus ac archifau’r sir. Archif yw casgliad o ddogfennau hanesyddol.
Mae archifau’n bwysig oherwydd maent yn cynnwys pob math o ddogfennau a delweddau gwreiddiol sy’n ein helpu ni i ddysgu am hanes a’r gorffennol. Mae Archifau ar gyfer Ysgolion yn bwriadu ‘gwneud hanes yn fyw’ drwy agor y drws i ysgolion allu gweld y dogfennau a’r delweddau gwreiddiol hyn.
Croeso i’r newyddlen addysg gyntaf gan Archifdy Sir y Fflint. Gobeithiwn gynhyrchu un o’r rhain ar ddechrau bob blwyddyn academaidd ond gallwch edrych ar ein gwefan a Moodle am newyddion drwy gydol y flwyddyn.
Polisi ar Allgymorth a Hyrwydd (pdf.doc 106KB ffenestr newydd)
Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau am ddim i ysgolion Sir y Fflint
Dewch i’n gweld yn yr Ystafell Chwilio: Mae croeso i ddisgyblion ac athrawon ddod i Archifdy Sir y Fflint naill ai fel unigolion neu fel grŵp, i ddysgu rhagor am hanes y sir a phynciau eraill y Cwricwlwm Cenedlaethol drwy’r edrych ar hen ffotograffau, mapiau, papurau newydd a dogfennau o bob math. Mae canllawiau manylach i’w gweld ar ein wefan: Cyhoeddiadau'.
Neilltuwch le’n gynnar: Byddwn yn trefnu i grwpiau neu ddosbarthiadau ymweld ar ddydd Mercher pan fyddwn ar gau i’r cyhoedd. Oherwydd prinder lle, dim ond 20 o ddisgyblion all ddod i bob sesiwn dosbarth.Cynllunio eich Ymweliad: Dywedwch wrthym sut yr hoffech i’ch disgyblion elwa o’r ymweliad. Ffoniwch neu e-bostiwch neu galwch heibio os yw hynny’n bosibl.
Rhowch ganllawiau i’r disgyblion cyn yr ymweliad. Gofynnwch iddynt barchu’r dogfennau gwreiddiol y byddant yn eu trin ac eglurwch y rheolau i’w dilyn rhag eu difrodi: rhaid i’w dwylo fod yn lân, ni chaniateir bwyd, diod na fferins yn yr ystafell chwilio a rhaid defnyddio pensil i wneud nodiadau.
Y tu ôl i’r llenni: Gallwn hefyd dywys y disgyblion ar daith o amgylch yr ystafelloedd diogel a’r stiwdio gadwraeth yn Archifdy Sir y Fflint. Sylwch na fydd hyn yn bosibl oni bai bod digon o staff ar gael ac nid yw’r daith yn addas ar gyfer plant dan 7 oed.
Sesiynau gwyll: Gellir trefnu sesiynau ar ôl ysgol i grwpiau o athrawon o ysgolion unigol neu ysgolion sy’n gweithio mewn partneriaeth.
Cysylltu â ni - I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch: Sue Millward, E-bost: archives@flintshire.gov.uk
Ymweld ag Archifdy Sir y Fflint
Ffurflen trefnu ymweliad ysgol (pdf.doc 22.5KB ffenestr newydd)