Arwain a pharhau i ddatblygu strategaeth uchelgeisiol ar gyfer gwasanaethau portffolio, a gefnogwyd gan gynllunio gweithredol a chyflawniad lefelau uchel o berfformiad a rhagoriaeth.
Sicrhau bod yr ystod ganlynol o wasanaethau yn cael eu darparu mewn modd cydlynol a chydweithredol, ac yn unol â’r polisïau, safonau a’r ddeddfwriaeth y cytunwyd arnynt:
LEFEL SIROL
- Gwasanaethau Stryd a gwasanaethau parth cyhoeddus
- Gwasanaethau Gwastraff
- Casglu a gwaredu gwastraff gweddilliol
- Casglu gwastraff i’w ailgylchu a’i ailddefnyddio
- Casglu gwastraff bwyd a’i drin
- Cludiant a Fflyd
- Traffig a Diogelwch ar y Ffyrdd
- y Rhwydwaith Priffyrdd a Chludiant (gan gynnwys darpariaeth cludiant cyhoeddus a chludiant ysgolion)
- Ynni ac Arbed Dŵr
- Busnes a Strategaeth
Mae gan y portffolio bedwar maes gwasanaeth, gyda'r Rheolwr Gwasanaeth ymhob adain yn adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Swyddog, Gwasanaethau Stryd a Chludiant. Y pedwar Rheolwr Gwasanaeth a’u meysydd cyfrifoldeb yw:
Rheolwr Cludiant: Mae’r Tîm Cludiant yn galluogi gwasanaethau cludiant diogel a chynaliadwy ar draws y Sir drwy integreiddiad llwyddiannus pob dull cludiant, er mwyn hwyluso twf economaidd a chynaliadwyedd ein cymunedau.
Rheolwr Darparu Gwasanaeth: Mae’r Tîm Cyflenwi Gwasanaethau yn rheoli gweithlu gweithredol, sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen, gan gynnwys casgliadau gwastraff ac ailgylchu, cynnal a chadw priffyrdd, cynnal a chadw’r gerddi, glanhau strydoedd, goleuadau stryd, cynnal a chadw yn ystod y gaeaf, a chynnal a chadw’r Rhwydwaith Cefnffyrdd.
Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd: Mae’r Tîm Rhwydwaith Priffyrdd yn gyfrifol am ansawdd a chyflwr strydoedd a mannau agored ledled y sir, ynghyd â chyfrifoldebau arbenigol ar gyfer rheoli gofod strydoedd, strwythurau’r priffyrdd, goleuadau stryd, cynnal a chadw yn ystod y gaeaf, a rheoli a chynnal a chadw’r fflyd.
Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio: Mae’r tîm Gwasanaethau Rheoleiddio yn sicrhau bod gwasanaeth yn cydymffurfio gyda phob un o’i ddyletswyddau statudol, ac yn cynnwys datblygiad strategaeth wastraff y Cyngor, rheoli Prosiect Trin Gwastraff Gweddillol Gogledd Cymru, Parcio Sifil a Gwasanaethau Gorfodi Amgylcheddol, Hyfforddiant a Chydymffurfiad.
LEFEL RANBARTHOL AC ISRANBARTHOL
- Datblygiad strategaeth ranbarthol e.e. yr isadeiledd cludiant a’i wasanaethau
- Dyluniad rhaglenni a phrosiectau cyfalaf rhanbarthol ar y cyd e.e.
- Metro Gogledd Ddwyrain Cymru, adnoddau Ynni Hydrogen
- Arweinyddiaeth ar y cyd ar drefniadau cydweithio rhanbarthol newydd/estynnwyd e.e. gwasanaethau gwastraff ar y cyd a chaffael
Arwain datblygiad parhaus strategaeth rheoli gwastraff y Cyngor, gan weithredu fel arweinydd gweithredol yn narpariaeth rheoli gwastraff, ailgylchu a gwaredu, gan weithio’n agos gyda gwrthrannau rhanbarthol, fel rhan o drefniadau cydweithio/dan gontract ffurfiol ac anffurfiol.
Arwain darpariaeth effeithiol ac effeithlon traffig a diogelwch ar y ffyrdd, priffyrdd a chludiant, gan sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu bodloni a bod gwasanaethau yn cael eu darparu yn unol â pholisïau a blaenoriaethau cyffredinol y Cyngor.
Rheoli datblygiad parhaus gwasanaethau cludiant a logisteg, gan sicrhau bod defnydd effeithlon ac effeithiol o’r fflyd ac adnoddau eraill i gyflawni perfformiad.
Dylunio a goruchwylio prif raglenni a phrosiectau cyfalaf, yn rhanbarthol ac yn lleol e.e. cyfres prosiectau Metro Gogledd Cymru.
Ystyried cyfleoedd ar gyfer modelau darpariaeth arall a chyfleoedd partneriaethau ar gyfer meysydd gwasanaeth gweithredol a phroffesiynol, gan gynnal lefelau perfformiad a gofynion rheolaethol a statudol, mewn meysydd gan gynnwys ynni ac arbed dŵr.
Darparu gwasanaethau stryd a gwasanaethau parth cyhoeddus proffesiynol ac effeithiol, a fyddai’n cyflawni lefelau uchel o berfformiad ac ansawdd yn unol â disgwyliadau preswylwyr a’r gymuned.
Goruchwylio cynllunio busnes cadarn sy’n cydymffurfio, rheoli risg a rheolaeth fewnol.
Rheolaeth ariannol effeithiol o gyllideb cyllidebau portffolio (£31m cyllideb refeniw).
Rheoli gweithlu effeithiol a chydweithio gydag undebau llafur cydnabyddedig (sy’n cynnwys gweithlu o 500 a rhagor)
Datblygu a gweithredu datrysiadau arloesol a chreadigol fel bod gwasanaethau yn bodloni anghenion y Cyngor i newid a gwella.
Hwyluso a hyrwyddo newid a thrawsnewid ar draws y portffolio, yn ogystal â gwneud cysylltiadau ledled y Cyngor; cefnogi rheolwyr wrth ddarparu modelau gwasanaeth effeithlon a newydd.
Mesuryddion Perfformiad: Dangosydd Perfformiad Allweddol o Gynllun y Cyngor; Dangosydd Perfformiad Allweddol o’r Cynlluniau Gwasanaeth; adborth gan fudd-ddeiliad a’r gymuned; canlyniadau arolygiad ac archwiliadau; Dangosyddion Cenedlaethol Perthnasol.
ARWEINYDDIAETH A DATBLYGU TALENT
Arwain, galluogi a datblygu rheolwyr a staff i sicrhau bod gweithlu cymwys, talentog a brwdfrydig yn bodloni amcanion y Cyngor.
Arwain drwy esiampl, gweithredu fel model rôl lleol mewn perthynas â gwerthoedd ac ymddygiadau arweinyddiaeth y Cyngor i lywio newid ymddygiadol a diwylliannol yn eraill.
Mesuryddion Perfformiad: Adborth gan reolwyr a staff, cynnydd yn erbyn arweinyddiaeth a datblygiad tîm (ymddygiadau, dulliau, adborth 360); amcanion a mesuryddion y Cynllun Pobl.
ARWEINYDDIAETH A LLYWODRAETHU EFFEITHIOL AR Y CYD
Sefydlu a chynnal perthnasau gwaith cadarn gydag aelodau etholedig wrth lywodraethu’r Cyngor, gan ddarparu lefel uchel o gyngor a chymorth i gynnal a gwella perfformiad y Cyngor.
Creu perthnasau gwleidyddol a phroffesiynol effeithiol wrth lywodraethu’r Cyngor, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau strategol, gydag eglurder ar atebolrwydd a gwneud penderfyniadau’n effeithiol.
Mesuryddion Perfformiad: Adborth Aelodau; Effeithiolrwydd perthnasau werth symud amcanion y Cyngor yn eu blaen.