Alert Section

Trwydded Perfformiadau Plant


Deddfau Plant a Phobl Ifanc 1933 a 1963, Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

Nodyn pwysig: Dylai ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Perfformiad Plant, Trwyddedau Modelu, Trwyddedau Gwaith neu awdurdodiadau Corff o Bobl gael eu cyflwyno o leiaf 21 diwrnod cyn y perfformiad, aseiniad neu’r dyddiad dechrau.

Ni allwn sicrhau y bydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu prosesu mewn amser.

Mae’n rhaid i blant sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau gael eu trwyddedu gan Awdurdod Lleol (ALl) yr ardal lle maent yn byw. Mae’r ddeddf yn mynnu hyn er mwyn diogelu iechyd, lles ac addysg plant, a gofalu eu bod yn ddiogel rhag niwed a cham-fanteisio.

Mae AALl Sir y Fflint yn cymryd y cyfrifoldeb am sicrhau fod plant yn cael eu gwarchod yn ddifrifol iawn, ac ni fydd yn rhoi trwydded oni fydd yn hollol sicr y bydd anghenion y plentyn yn cael eu hateb yn llawn.

Pwy a elwir yn blentyn at ddiben trwyddedu perfformiad?

Plant o’u geni hyd at oedran statudol gadael yr ysgol (dydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn ysgol pryd y bydd plentyn yn cyrraedd 16 oed).

Beth a olygir wrth berfformiad?

Mae’r term ‘perfformiad’ yn cynnwys:-

  • unrhyw gynhyrchiad byw;
  • unrhyw gynhyrchiad a ddarlledir neu sy’n cael ei recordio;
  • modelu;
  • gweithgaredd chwaraeon proffesiynol.

Trwyddedau Perfformio

Ym mhob achos, bron, lle bo plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad, mae  angen trwydded. Y cynhyrchydd sy’n gwneud cais am drwydded perfformiad plentyn, nid y plentyn na rhiant y plentyn.

Mae ffurflenni cais ar gael gan a'i dychwelyd at:

Trwydded Perfformiadau Plant
Addysg a Ieuenctid
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6ND

Ebost: childlicences@flintshire.gov.uk

Sicrhewch eich bod wedi darllen a llenwi’r ffurflen yn iawn gyda’r holl wybodaeth y gofynnir amdani gan na fyddwn yn gallu ystyried unrhyw geisiadau anghyflawn. 

Cais am drwydded berfformio i blant

Dylai ffurflenni gael eu dychwelyd wedi eu llenwi’n llawn a chyda’r holl ddogfennau angenrheidiol 21 diwrnod cyn dyddiad y perfformiad cyntaf. Nid yw copïau o’r ffurflenni wedi eu ffacsio yn dderbyniol. Dywed y rheoliadau y gall yr awdurdod trwyddedu, h.y., yr ALl, wrthod trwydded ar y sail na chyflwynwyd y cais o fewn y terfyn amser 21 diwrnod

Diben y terfyn amser yw caniatáu i’r awdurdod trwyddedu (ALl) gynnal y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau diogelwch, iechyd, lles ac anghenion addysgol y plentyn. Mae’n rhaid i’r ALl lleol hysbysu’r ALl dros yr ardal lle cynhelir y perfformiad, er mwyn caniatáu i’r awdurdod hwnnw drefnu archwiliad.

Gyda’r cais am drwydded, rhaid cael y canlynol:-

  • dau ffotograff diweddar maint-pasbort o’r plentyn;
  • prawf o ddyddiad geni’r plentyn (copi o’r dystysgrif geni neu dudalen gefn y pasbort);
  • ffurflen datganiad iechyd;
  • llythyr gan Brifathro/Brifathrawes y plentyn yn cytuno i’r plentyn fod yn absennol o’r ysgol a/neu yn cadarnhau na fydd y perfformiadau arfaethedig yn andwyol i addysg y plentyn - cliciwch yma ar gyfer y ffurflen.

Gydag ychydig iawn o eithriadau, ni chaiff plentyn berfformio oni roddwyd trwydded. Ni ellir cyhoeddi trwyddedau yn ôl-weithredol. Dyma eithriadau i’r angen am drwydded:-

  • nid yw’r perfformiad am fwy na phedwar diwrnod ac ni fu perfformiad cyffelyb yn y chwe mis diwethaf, ac
  • nid yw’r plentyn yn cael ei dalu, ac
  • ni fydd y plentyn yn absennol o’r ysgol.

Mae perfformiadau ysgol (neu rai gyda sefydliadau megis sgowtiaid, geidiaid neu eglwys) hefyd wedi eu heithrio.

Mewn rhai achosion gall trefnydd wneud cais am gymeradwyaeth dorfol oddi wrth yr awdurdod lleol lle mae’r perfformiad(au) yn digwydd. Mae hyn yn cwmpasu’r holl blant mewn un gymeradwyaeth, yn hytrach na thrwyddedau unigol i bob plentyn sy’n cymryd rhan. Gall cymeradwyaeth dorfol fod yn opsiwn da i grwpiau amatur y gallai’r broses drwyddedu fod yn rhy feichus a chostus fel arall, i’r graddau y gallai plant gael eu hamddifadu o gyfleoedd da. Gall hyn hefyd fod yn briodol i fathau eraill o gyrff: y gofyniad allweddol yw nad yw’r plant yn cael eu talu.

Cymeradwyaeth Dorfol (Body of Persons)

DS: Ni all plentyn fod â thrwydded weithio a thrwydded berfformio ar yr un pryd.

Gwarcheidwaid

Rhaid i blentyn sy’n cymryd rhan mewn perfformiad gael ei ofalu gan warchodwr trwyddedig. 

I wneud cais am drwydded hebryngwr, anfonwch e-bost at Childlicences@flintshire.gov.uk i ofyn am y ffurflenni cais perthnasol. 

Dylech gynnwys llun o’ch hun gyda’r cais. Dylai’r llun hwn fod yn debyg i lun pasbort (h.y. pen ac ysgwyddau, nid hyd llawn) ond nid yw’r rheolau mor llym felly gallwch dynnu’r llun eich hun ar eich ffôn symudol a’i anfon ar e-bost i ni. 

Cyflwynwch eich cais o leiaf mis cyn yr ydych yn dymuno gwirfoddoli fel gwarchodwr. Ni allwn sicrhau pa mor hir fydd y gwiriadau gorfodol yn cymryd. Gallwch gyflwyno eich cais yn gynt na hyn er mwyn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau y bydd eich trwydded yn cael ei gyflwyno cyn y bydd ei angen.

Os hoffech i ni anfon y ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall i chi drwy e-bost, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, anfonwch e-bost at: Childlicences@flintshire.gov.uk