Cyllid Amgen Cynllun Cefnogi Biliau Ynni
Cynllun Cymorth Biliau Ynni
Mae’r Cyllid Amgen Cynllun Cymorth Biliau Ynni yn darparu cymorth o £400 ar gyfer biliau ynni i aelwydydd yn Lloegr, yr Alban a Chymru nad oes ganddynt berthynas uniongyrchol â chyflenwr trydan domestig. Darperir y cymorth gan Lywodraeth Ei Fawrhydi ac nid gan awdurdodau lleol. Mae’r cynllun bellach ar agor i bob aelwyd cymwys ledled Prydain Fawr tan 31 Mai 2023.
Cymhwysedd
Os bydd ceisiadau yn bodloni’r meini prawf cymhwyso, mae’r bobl a fydd yn gallu cael cymorth o dan y cynllun yn cynnwys:
• preswylwyr cartrefi gofal ac eraill mewn cyfleusterau gofal/llety gwarchod (yn talu eu hunain yn llawn neu’n rhannol)
• preswylwyr cartref parc, cychod preswyl a charafanau a all ddarparu prawf o gyfeiriad
• tenantiaid cymdeithasol neu breifat sy’n talu am ynni trwy landlord ar gyflenwad masnachol
• cartrefi ar rwydwaith gwres/gwifrau preifat
• cartrefi oddi ar y grid
• ffermdai a ddefnyddir yn llwyr at ddibenion domestig
Sut i wneud cais
Os ydych yn gymwys i gael y cyllid hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen fer ar-lein trwy wefan GOV.UK. Gellir dod i hyd i’r ffurflen hon trwy chwilio am “Apply for energy bill support if you do not get it automatically” i’r bar chwilio ar GOV.UK neu beiriant chwilio rhyngrwyd. Neu darperir y ddolen isod;
https://www.gov.uk/apply-energy-bill-support-if-not-automatic
Gwneir ceisiadau yn uniongyrchol i Lywodraeth Ei Fawrhydi, nid i neu trwy Awdurdodau Lleol. Os nad oes gennych fynediad ar-lein, gallwch wneud cais trwy ganolfan gyswllt ar 08081753287 ble fydd cynrychiolydd yn mynd trwy’r broses ymgeisio gyda chi.
Ar ôl i chi wneud cais, bydd yn cael ei brosesu a’i ddilysu. Os yw eich cais yn llwyddiannus, rhennir eich manylion gydag awdurdodau lleol, a fydd yn darparu’r cymorth untro nad oes angen ei dalu’n ôl. Gwneir y taliad hwn yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn un taliad.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar GOV.UK
https://www.gov.uk/get-help-energy-bills