Adolygu Deiliadaeth Cwestiynau Cyffredin
Mae Cyngor Sir y Fflint ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o feddiannaeth eiddo yn ein hardal i sicrhau bod pawb yn talu’r swm cywir o dreth. Rydym yn gwerthfawrogi y gallai fod gennych gwestiynau wrth gymryd rhan yn yr adolygiad hwn.
I helpu, rydym wedi cynnwys y cwestiynau mwyaf cyffredin a all godi yn ystod y cyfnod adolygu hwn isod.
Pam ydw i wedi derbyn y llythyr hwn?
Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn adolygu deiliadaeth eiddo yn ein hardal i sicrhau bod pawb yn talu'r swm cywir o dreth.
Sut ydw i'n llenwi'r ffurflen?
Y ffordd hawsaf o ymateb i'r adolygiad yw drwy ddefnyddio'r gwasanaethau ar-lein. Cyfeiriwch at eich llythyr am gyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn gan ddefnyddio eich cod unigryw 8 digid.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn llenwi’r ffurflen?
Os na fyddwch yn ymateb neu'n llenwi'r ffurflen, byddwn yn cymryd nad yw'r eiddo bellach yn cael ei feddiannu.
Beth fydd yn digwydd os caiff y ffurflen ei chwblhau ar ôl y terfyn amser o 21 diwrnod a roddwyd?
Os na chaiff y ffurflen ei dychwelyd neu ei chwblhau o fewn 21 diwrnod, byddwn yn cymryd yn ganiataol nad yw'r eiddo bellach yn cael ei feddiannu, a allai effeithio ar eich treth gyngor.
Os ydych am lenwi'r ffurflen bapur ac angen cymorth. Gweler y canlynol os gwelwch yn dda:
Bydd angen i chi ddatgan sut mae'r eiddo'n cael ei ddefnyddio. I wneud hyn, cwblhewch Adran A a thiciwch yr opsiwn perthnasol. Os oes rhywun yn byw yn yr eiddo, ewch ymlaen i Adran B a rhestrwch enwau pawb sy'n defnyddio'r cyfeiriad hwn fel eu prif breswylfa.
Os nad yr eiddo yw eich prif breswylfa cwblhewch Adran C a thiciwch yr opsiwn perthnasol.
Llofnodwch, Argraffwch a Dyddiwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r cyfeiriad a ddarperir ar waelod eich llythyr. Sylwch - NI dderbynnir unrhyw lythyrau a anfonir gyda phostio annigonol/annilys ac efallai y bydd eich gostyngiad yn cael ei ddileu o ganlyniad.
Pam y gofynnir i mi ddychwelyd fy ngwybodaeth i gyfeiriad yn Nottingham?
Mae’r cyfleuster sganio llywodraeth leol diogel a ddefnyddir i brosesu eich ymateb wedi’i leoli yn Nottingham.
Rwyf eisoes wedi hysbysu'r Cyngor am newid mewn amgylchiadau. Oes angen i mi lenwi'r ffurflen?
Oes. Cofiwch gynnwys holl fanylion eich sefyllfa bresennol.
Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy amgylchiadau wedi'u cynnwys yn yr enghreifftiau uchod?
Os ydych yn dal yn ansicr sut i lenwi’r ffurflen, dychwelwch y ffurflen bapur i’r cyfeiriad ar frig eich llythyr, ynghyd â llythyr eglurhaol gydag esboniad o’ch sefyllfa bresennol.
Awgrymiadau ar gyfer cwblhau’r ffurflen ar-lein
• Sicrhewch eich bod yn copïo a gludo’r URL llawn ym mar cyfeiriad eich porwr gwe, yn hytrach na chwilio amdano, er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich cyfeirio at y dudalen gywir.
• I fewngofnodi, gallwch ddod o hyd i’r manylion angenrheidiol yn y llythyr a anfonwyd atoch.
• I gwblhau’r broses fewngofnodi, sicrhewch eich bod yn rhoi rhif y cyfrif yn llawn, y rhif PIN 6 digid, a chod post yr eiddo dan sylw.
• Os ydych yn profi anawsterau wrth ddefnyddio’r ffurflen, ceisiwch ddefnyddio porwr gwahanol megis Chrome neu Edge.