Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau newydd.
Byddwch yn amyneddgar wrth i ni brosesu’r holl geisiadau mor gyflym â phosibl. Os nad ydych chi wedi derbyn £200 o Daliad Tanwydd Gaeaf erbyn 27 Mawrth 2022 e-bostiwch ni winterfuelsupport@flintshire.gov.uk, gan roi eich enw llawn, cyfeiriad a rhif y cais.
Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd Taliad Tanwydd y Gaeaf yn cael ei gynyddu o £100 i £200.
Os ydych eisoes wedi derbyn £100, byddwch yn derbyn ail daliad o £100 yn awtomatig yn yr wythnosau newydd. Nid oes angen i chi wneud cais arall, na chysylltu â ni i wneud cais am y taliad hwn.
Diolch i chi am eich amynedd, rydym yn gweithio cyn gynted â phosibl i ddosbarthu’r taliadau hyn.
Fel rhan o’r pecyn cymorth gwerth dros £50m er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £38 miliwm drwy Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.
Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 gan eu cyngor lleol. Diben yr arian yw rhoi cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd y gaeaf.
Mae’r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un aelod oedran gweithio yn derbyn budd-dal lles sy’n dibynnu ar brawf modd (unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022):
- Cymhorthdal Incwm;
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm;
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm;
- Credyd Cynhwysol; neu
- Gredydau Treth Gwaith.
Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys waeth sut y maent yn talu am danwydd. Mae hyn yn cynnwys taliadau a wneir ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.
Aelwyd sy’n gymwys ar gyfer y cynllun hwn yw un sy’n gyfrifol am dalu’r biliau tanwydd ar gyfer eu heiddo.
Unigolyn Sengl
- Rydych chi’n gwneud cais i’r cynllun ar neu cyn 28 Chwefror 2022
- Rydych chi’n gyfrifol am dalu biliau tanwydd eich eiddo
- Rydych wedi derbyn budd-dal lles cymwys ar gyfer unigolion oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022
- Cymhorthdal Incwm;
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm;
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm;
- Credyd Cynhwysol; neu
- Gredydau Treth Gwaith.
- Nid ydych chi wedi derbyn taliad o dan y cynllun yn y gorffennol
Cwpl
- Rydych chi neu’ch partner yn gwneud cais i’r cynllun ar neu cyn 28 Chwefror 2022
- Rydych chi, eich partner, neu’r ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu biliau tanwydd eich eiddo.
- Rydych chi, eich partner, neu’r ddau ohonoch wedi derbyn budd-dal lles cymwys ar gyfer unigolion oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022
- Cymhorthdal Incwm;
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm;
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm;
- Credyd Cynhwysol; neu
- Gredydau Treth Gwaith.
- Nid ydych chi na’ch partner wedi derbyn taliad o dan y cynllun yn y gorffennol
Gall unigolion sy’n credu y gallent fod yn gymwys i gael y cymorth hwn gyflwyno cais drwy’r wefan hon o 13 Rhagfyr 2021 ymlaen.
Byddwn hefyd yn ysgrifennu at aelwydydd yr ydym yn credu sy’n gymwys, gan ofyn am wybodaeth i gefnogi’r cais ynghyd â manylion i alluogi’r taliad.
Mae’n rhaid cyflwyno’r ceisiadau i gyd cyn 28 Chwefror 2022. Bydd taliadau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud erbyn diwedd mis Ebrill 2022. Gallwch wneud cais yma:
Ffurflen Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch winterfuelsupport@flintshire.gov.uk
Efallai y byddwch chi’n dal i brofi caledi ariannol difrifol. Os felly, efallai y byddwch yn dymuno gwneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF). https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf