Ymgynghoriad ar Gynllun Lles Drafft 2023-2028
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (y ‘Ddeddf’) yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodol i gydweithio, gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, i wella lles lleol yn eu hardal, a helpu i gyflawni saith nod lles Cymru.
Mae’r Ddeddf hefyd yn dweud bod angen i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal o dro i dro. Cyhoeddwyd yr Asesiad diwethaf o Les yn Sir y Fflint ym mis Mai 2022 ac rydym ni rŵan yn defnyddio hwn i ddylanwadu ar y Cynllun Lles nesaf, 2023 i 2028, a fydd yn nodi amcanion i wella lles lleol.
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi drafftio ei ddogfen ymgynghori ar Gynllun Lles 2023 i 2028 ac mae rŵan yn gofyn am sylwadau cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol.
Ymgynghoriad ar Gynllun Lles Drafft Sir y Fflint a Wrecsam Tachwedd 2022
Sut i gymryd rhan
I rannu eich barn, darllenwch ein dogfen ddrafft ac anfonwch eich sylwadau neu awgrymiadau ar y ddogfen ymgynghori ddrafft ar ein Cynllun Lles at CorporateBusiness@flintshire.gov.uk
Cysylltwch â’r tîm cyn 5 Chwefror 2023.
Rhagor o wybodaeth
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-and-Democracy/Flintshire-Public-Services-Board.aspx