Sir y Fflint Digidol
Cefnogi Cyngor Modernac Effeithiol
Ers y gwaith o ddatblygu Strategaeth TG blaenorol yCyngor, mae datblygiadau cyflym mewn technolegauwedi gweddnewid y ffordd y mae llawer o bobl ynbyw eu bywydau. Mae hyn yn amrywio o sut y maentyn prynu nwyddau a gwasanaethau i’r modd y maentyn cyfathrebu ag eraill. Mae’r sector cyhoeddus hefydwedi gweld newid sylweddol yn erbyn cefndir o heriauariannol digynsail gyda fawr o arwydd o hyn yn newidyn ystod oes y Strategaeth hon. Mae’r dirwedd ar gyferLlywodraeth Leol yng Nghymru yn y dyfodol yn dal i fodyn ansicr sy’n gallu gwneud cynllunio ar gyfer buddsodditymor hir mewn technoleg yn anodd. Yn wyneb yr heriauhyn, mae llawer o enghreifftiau o gynghorau yn defnyddiotechnoleg i sicrhau effeithlonrwydd busnes tra’n gwellagwasanaethau i gwsmeriaid.
Yn Sir y Fflint, rydym wedi croesawu technoleg igyflwyno newidiadau mewn; caffael drwy gyflwyno atebe-gaffael, adnoddau dynol drwy gyflwyno rheolwr ahunanwasanaeth gweithwyr; cynnal a chadw tai drwygyflwyno gweithio symudol; derbyn i ysgolion drwyddatblygu cais ar-lein ar gyfer derbyniadau ysgol; cysylltuâ chwsmeriaid trwy ddatblygu a gweithredu gwefan cwblymatebol, system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM), teleffoni canolfan gyswllt ac APP symudol corfforaethol. Mae gennym bron i 2000 o weithwyr sy’n gallu gweithiomewn modd hyblyg gyda mynediad diogel i dechnolego leoliadau o’u dewis. Mae hyn wedi cefnogi StrategaethRheoli Asedau’r Cyngor gan alluogi lleihad o ofod swyddfaar draws y Cyngor. Mae’r enghreifftiau hyn yn cynrychioliychydig o’r meysydd lle mae technoleg wedi cael eiddefnyddio i gefnogigwell effeithlonrwyddbusnes a gwasanaethcwsmeriaid.
O fewn y gwasanaethTG, rydym wediail-alinio adnoddaua buddsoddiad i gwrdd â blaenoriaethau’r Cyngor,siâp newidiol y sefydliad a’r gofynion cydymffurfio sy’nymwneud â rheoli gwybodaeth a diogelwch yn well.
Mae mwy o ddefnydd o dechnoleg hefyd wedi gweldtwf mewn seiberdroseddu. Mae cydbwyso anghenion yCyngor i ddarparu gwasanaethau hyblyg a dibynadwy i’ncwsmeriaid a hefyd sicrhau diogelwch a chywirdeb einseilwaith digidol a gwybodaeth yn her gynyddol.
Mae’n amlwg bod technoleg wedi, a bydd yn parhau ichwarae rhan sylweddol yn y ffordd y mae’r cyngor yndatblygu ac yn cyflenwi gwasanaethau ac y bydd yngwneud cyfraniad sylweddol i flaenoriaeth y Cyngor iddarparu ‘Cyngor Modern ac Effeithlon’.
Bydd y Strategaeth hon yn amlinellu sut y byddgwybodaeth a Technoleg Ddigidol yn cael ei ddefnyddioi gefnogi Blaenoriaethau Gwella’r Cyngor a chynlluniaustrategol dros y pum mlynedd nesaf. Bydd StrategaethRheoli Gwybodaeth ar wahân hefyd yn cael ei datblygui gyd-fynd â hi.