Adolygiad o Dosbarthiadau Etholiadol a Mannau / Gorsafoedd Pleidleisio 2023
Beth yw adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio?
Mae'n rhaid i ni gwblhau adolygiadau rheolaidd o'r llefydd y mae pobl yn mynd iddyn nhw er mwyn pleidleisio. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried ffiniau ein dosbarthiadau etholiadol a'r lleoliadau/gorsafoedd pleidleisio o fewn y ffiniau hynny. Mae'r mwyafrif o bobl yn parhau i bleidleisio'n bersonol, a'r nod yw sicrhau bod gennych chi'r cyfleusterau priodol i wneud hyn, gan gymryd anghenion pawb i ystyriaeth
Rhybudd Adolygu Dosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio (PDF)
Dogfen Ymgynghori (PDF)
Adolygu Dosbarthiadau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio (Etholiadau Seneddol) - Sylwadau'r Swyddog Canlyniadau
Gorsafoedd / Mannau Pleidleisio Presennol
Rhestr o Fannau / Gorsafoedd Pleidleisio
Mae’r dogfen hon yn rhestru’r dosbarthiadau a’r mannau/gorsafoedd pleidleisio ar gyfer pob wardiau etholiadol yng Nghyngor Sir Y Fflint. Rydym wedi cynnwys sylwadau am broblemau posibl yr ydym eisoes yn ymwybodol ohonynt, er enghraifft:
- Yr ardaloedd lle nad yw’r ffiniau’n hollol gywir
- Gorsafoedd pleidleisio nad ydynt ar gael bellach, felly mae arnom angen cymorth i nodi'r lle gorau ar gyfer etholiadau yn y dyfodol
Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau mewn perthynas â’r materion hyn.
Eich Sylwadau
Gall unrhyw etholydd sydd wedi cofrestru o fewn Sir yr Fflint gyflwyno sylwadau i ni. A fyddech cystal ag anfon adborth yn ymwneud â’r adolygiad hwn atom os gwelwch yn dda, ond yn bwysicach fyth, os nad ydych chi’n hapus â’r trefniadau presennol, mae arnom angen awgrymiadau o ran mannau pleidleisio amgen er mwyn i ni allu ymgynghori ymhellach.
Sut i Gyflwyno Sylwadau
Y ffordd hawsaf yw llenwi'r holiadur ar-lein. Cliciwch ar y ddolen isod i agor yr holiadur.
Ewch i’r holiadur
Os byddai’n well gennych chi ysgrifennu atom, dylid anfon sylwadau at:
Cyfeiriad
Gwasanaethau Etholiadol
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR
E-bost
cofrestru@siryfflint.gov.uk
Mae’n rhaid i sylwadau gael eu derbyn erbyn 17 Tachwedd 2023.