Etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig (Etholiadau Cyffredinol) 12 Rhagfyr 2019
Bydd yr Etholiadau Seneddol nesaf ar 12 Rhagfyr 2019
Mae ASau'n rhannu eu hamser rhwng gwaith yn Senedd San Steffan, Llundain a gwaith lleol yn yr ardal y maent yn ei chynrychioli. Mewn Etholiadau Seneddol (a elwir hefyd yn Etholiadau Cyffredinol), gallwch bleidleisio dros eich Aelod Seneddol (AS) lleol. Yng Sir y Fflint, mae 2 AS, un ar gyfer pob un o etholaethau seneddol Alun a Glannau Dyfrdwy ac Delyn.
Alun a Glannau Dyfrdwy
Delyn
Dyddiadau Pwysig
- Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio: Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019
- Dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post: 5pm Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019
- Bydd pleidleisiau post yn cael eu hanfon ar Dydd Mercher 27 Tachwedd 2019
- Dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy: 5pm Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2019
Pleidleisio
I bleidleisio mewn etholiad cyffredinol mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio, yn 18 oed neu drosodd ar ddiwrnod y pleidleisio a hefyd:
- fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys y Gymanwlad neu'n ddinesydd Gwerinaeth Iwerddon
- ddim yn destun unrhyw anghymhwysedd cyfreithiol i bleidleisio
Ewch i ganfod sut i gofrestru i bleidleisio
Yn ychwanegol, nid all y canlynol bleidleisio mewn etholiad cyffredinol y DU:
- aelodau Tŷ'r Arglwyddi (er gallant bleidleisio mewn etholiadau i awdurdodau lleol, cyrff deddfwriaethol datganoledig a Senedd Ewrop)
- dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU (er gallant bleidleisio mewn etholiadau i awdurdodau lleol, cyrff deddfwriaethol datganoledig a Senedd Ewrop)
- unrhyw un heblaw dinaysddion Prydeinig, Gwyddelig a dinasyddion cymwys y Gymanwlad
- pobl euogfarnedig sydd yn y ddalfa o ganlyniad i'w dedfryd (ond gall carcharorion ar remand, carcharorion nad ydynt wedi'u cael yn euog a charcharorion dinesg bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol)
- unrhyw sydd wedi'u cael yn euog o fewn y pum mlynedd blaenorol o arferion llwgr neu anghyrfreithlon mewn perthynas ag etholiad