Y gyllideb a gwasanaethau lleol
Mae #CefnogiGalw yn gynllun ar gyfer nawdd teg i lywodraeth leol ac ar gyfer Sir y Fflint. Nid yw’r ymgyrch yn un gan blaid wleidyddol, a gall unrhyw sy’n poeni am lywodraeth leol a gwasanaethau lleol ei gefnogi.
Bob blwyddyn mae cynghorau’n gorfod gosod cyllideb sy’n taro cydbwysedd rhwng eu hadnoddau a’u hanghenion gwario. Fel pob Cyngor, mae Sir y Fflint wedi gweld gostyngiad yn y cyllid y mae’n ei dderbyn gan lywodraethau o un flwyddyn i'r llall am bron i ddegawd.
Hyd yn oed yn ystod y cyfnodau anodd hyn, mae ein cyngor wedi aros yn uchelgeisiol a thrwy fod yn arloesol a thrwy gynllunio ymlaen, mae wedi parhau i warchod gwasanaethau a buddsoddi ynddynt.
Bob blwyddyn mae’n mynd yn anoddach gwneud mwy o arbedion a gwarchod gwasanaethau; ar brydiau mae’r cyngor wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd o ran y gyllideb.
Dewch o hyd i ragor i wybodaeth am sut mae toriadau i’r gyllideb yn effeithio gwasanaethau lleol, isod.
Mae croeso i chi lawrlwytho a rhannu’r taflenni gwybodaeth hyn gydag eraill, ac os ydych chi, fel ni, yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru #CefnogiGalw – cymerwch ran a dangoswch eich cefnogaeth.