Ynni adnewyddadwy drafft y Cyngor ar gyfer y deng mlynedd nesaf
Drwy’r cynllun uchelgeisiol hwn bydd y Cyngor Sir yn creu ei ynni adnewyddadwy ei hun, drwy ddefnyddio rhywfaint o’i asedau tir sylweddol, yn amrywio o ffermydd i safleoedd tirlenwi a adferwyd, parciau a choetiroedd, fel ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Bydd hyn yn gynaliadwy ac yn broffidiol a bydd yr incwm a gynhyrchir yn helpu’r Cyngor Sir yn ei her barhaus i wneud arbedion. Bydd hefyd yn creu twf economaidd a swyddi lleol.Mae gwastraff coed a gesglir yn safleoedd amwynderau dinesig y Cyngor wedi’i nodi fel ffynhonnell cynhyrchu pwer posibl ar gyfer gwres a golau.
Nodwyd arbedion posibl o £500,000 y flwyddyn o leiaf.
Bwriedir plannu mwy o goed a fyddai’n creu ffynhonnell biomas cynaliadwy (sglodion, peledi a boncyffion coed) a fyddai hefyd yn creu coetiroedd ychwanegol a fyddai ar gael i’r cyhoedd eu mwynhau. Ymysg ei uchelgeisiau hefyd mae’n bosibl y bydd y Cyngor, fel cynhyrchydd ynni adnewyddadwy, yn dod yn gyflenwr ynni i bobl a busnesau lleol.
Cynllun Gweithredu 10 mlynedd - Ynni Adnewyddadwy