Nod y Cynllun Bond yw cynnig cymorth drwy roi Bond ar waith yn lle’r taliad arian er mwyn helpu pobl i sicrhau llety addas a fforddiadwy yn y Sector Rhentu Preifat gan fod ymgeiswyr fel arfer angen talu rhent o flaen llaw a blaendal i’r landlord neu’r asiant.
Fel arfer mae angen i ymgeiswyr allu dangos bod ganddynt “angen cydnabyddedig am dŷ” yn hytrach na “dymuniad” i symud er mwyn i’r Cyngor ystyried darparu cymorth.
Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau Asesiad Brysbennu Tai i ddangos bod ganddynt “angen cydnabyddedig am dŷ”. I wneud hyn ffoniwch 01352 703777 neu ewch i’ch swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu agosaf.
Os ydych chi’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd, byddwn yn ceisio eich atal rhag dod yn ddigartref. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i’ch helpu i aros yn eich cartref neu eich helpu chi i sicrhau cartref newydd yn gyflym os na allwch aros yn lle’r ydych chi. Mae amryw o resymau pam fod pobl yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd ac mae ein swyddogion yma i’ch helpu.
Ar gyfer ymgeiswyr sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd, mae’n bwysig eu bod yn cysylltu â ni ar 01352 703777 neu eu bod yn mynd i’w swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu agosaf cyn gynted â phosibl gan y bydd angen iddynt gwblhau Asesiad Brysbennu Tai.
Mae Cyngor Sir y Fflint (CSFf) yn gweithredu amrywiol gynlluniau gan gynnwys y cynllun Bond i gynorthwyo Ymgeiswyr cymwys i sicrhau llety yn y Sector Rhentu Preifat (PRS) a all gynnwys talu rhent ymlaen llaw a blaendal ar eu rhan.
Wrth sicrhau llety yn y Sector Rhentu Preifat (PRS), yn gyffredinol mae angen i ymgeiswyr dalu rhent ymlaen llaw a blaendal i'r landlord neu'r asiant. Cynlluniwyd y Cynllun Bond i helpu gyda'r blaendal.
Nod y Cynllun Bond yw darparu gwarant yn lle blaendal arian parod i gynorthwyo pobl i sicrhau llety rhent preifat.
Gweler crynodeb o’r Cynllun Bond isod;
- Ni fwriedir i’r Bond fod ar gyfer ystod oes y denantiaeth, yn hytrach mae’n galluogi’r ymgeisydd i sicrhau llety addas a darparu ‘seibiant’ iddo gynilo ar gyfer ei daliad arian ei hun.
- Efallai bydd Bond yn cael ei roi yn lle’r taliad arian a bydd hwn yn cael ei roi i’r landlord neu’r asiant. Fel arfer mae’r Bond ar waith am 12 mis.
- Yn ystod y cyfnod hwn, disgwylir y bydd yr ymgeisydd, h.y. y tenant, wedi cynilo arian fel y gall newid y Bond am y taliad arian a thalu’r blaendal yn uniongyrchol i’r landlord neu’r asiant.
- Unwaith mae’r landlord neu’r asiant wedi derbyn y taliad arian, mae ganddo 30 diwrnod i ddweud wrth y tenant:
- cyfeiriad yr eiddo sy’n cael ei rentu
- swn y blaendal
- sut mae’r blaendal yn cael ei ddiogelu
- enw a manylion cyswllt y cynllun Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth a’i wasanaeth datrys anghydfod
- ei enw a manylion cyswllt (neu enw a manylion cyswllt yr asiantaeth gosod tai)
- enw a manylion cyswllt unrhyw drydydd parti sydd wedi talu’r blaendal • y rheswm pam fyddant yn cadw rhan neu’r holl flaendal
- sut i ymgeisio i gael y blaendal yn ôl
- beth i’w wneud os na all y tenant gysylltu â’r landlord ar ddiwedd y denantiaeth
- beth i’w wneud os oes dadlau dros y blaendal
- Efallai bydd ymgeiswyr yn dymuno ystyried agor Undeb Credyd neu gyfrif banc ar wahân er mwyn eu helpu i gynilo arian ar gyfer eu taliad arian.
- Os bydd yr ymgeisydd/tenant yn gadael yr eiddo tra bo’r Bond ar waith a bod dyledion rhent neu ddifrod i’r eiddo, yn union fel y bydd y landlord neu’r asiant yn cadw rhan neu’r holl daliad arian, os yw wedi’i dalu, gallant wneud hawliad yn erbyn y Bond.
- Cyn belled a bod tystiolaeth ategol, bydd yn rhaid i’r Cyngor ad-dalu’r landlord hyd at werth y Bond h.y. y blaendal. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai bydd y Cyngor yn ail godi tâl ar y tenant.
- Mae’n rhaid i bob eiddo wedi’i rentu’n breifat yng Nghymru fod wedi cofrestru a’i drwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru. Efallai bydd ymgeiswyr yn dymuno edrych ar wefan Rhentu Doeth Cymru i sicrhau bod unrhyw eiddo y maent yn bwriadu ei rentu wedi’i gofrestru a’i drwyddedu’n gywir ac, oni bai bod eithriad yn berthnasol, mae’n rhaid iddo gael Tystysgrif Perfformiad Ynni dilys o ddim llai na graddfa “E”. Gellir cael mynediad at Dystysgrifau Perfformiad Ynni drwy’r Cofrestr Gwirio - Rhentu Doeth Cymru.
Gan fod angen ymgymryd â nifer o wiriadau gwahanol yn cynnwys fforddiadwyedd a chynaladwyedd, os ydych angen cymorth gan y Cyngor i sicrhau eiddo, gofynnwn i chi siarad â ni’n gyntaf er mwyn cael ein cytundeb cyn ymrwymo eich hun i denantiaeth gan na fyddwn yn gallu darparu cymorth yn ôl-weithredol.
Efallai bydd ymgeiswyr eisiau defnyddio gwefannau cyfrifiannell budd-daliadau fel Turn2Us a Entitled To er mwyn cael gwybod am unrhyw fudd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt - yn cynnwys cymorth gyda chostau tai a Threth y Cyngor.
Os oes gan denant Bond yn hytrach na thaliad arian neu os oes gennych chi eiddo i’w rentu ac yn fodlon ystyried derbyn Bond yn hytrach na thaliad arian, cysylltwch â’n tîm Bond drwy Gymorth Landlordiaid ar 01352 703811 neu Landlord.Support@flintshire.gov.uk.
Cwestiynau Cyffredin ar y Cynllun Bond
Dyluniwyd y cynllun bond i helpu’r rhai sydd ar incymau isel neu’n derbyn budd-daliadau i gael mynediad at lety rhent preifat.
Blaendal diogelwch yw’r taliad mae rhywun yn ei wneud i landlord neu asiant rheoli cyn symud i eiddo rhent preifat. Mae’r arian yn cynnwys costau unrhyw atgyweiriadau y gall y tenant achosi wrth fyw yn y llety megis difrod i waliau neu garpedi. Gellir ei ddefnyddio hefyd i dalu am unrhyw ôl-ddyledion rhent er mwyn helpu diogelu tenantiaid rhag cael eu troi allan.
Bond yw tystysgrif sy’n cynnwys y blaendal diogelwch ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu casglu’r arian i sicrhau’r eiddo.
Mae’n gytundeb a wneir rhwng y Landlord, y deiliad contract (tenant) a Chyngor Sir y Fflint, sy’n cadarnhau ar gyfer oes y bond, os oes angen gwneud hawliad am ddifrod neu ôl-ddyledion diogelwch drwy un o’r Cynlluniau Blaendal Tenantiaeth, mae’r Landlord yn hawlio hyn yn ôl gan Gyngor Sir y Fflint.
Mae ein tystysgrifau bond yn para am 12 mis. Mae hyn yn rhoi amser i’r deiliad contract (tenant) gynilo arian i ddisodli’r bond gyda’r blaendal.
I fod yn gymwys am y cynllun bond, rhaid i’r ymgeiswyr fod ar y Gofrestr Dai neu weithio gydag un o’n Swyddogion Datrysiadau Tai.
- 16 oed neu hŷn
- Gydag angen penodol am dŷ
- Yn derbyn budd-daliadau neu ar incwm isel
- Methu â chasglu’r arian ar gyfer blaendal
- Gyda chysylltiad lleol â’r ardal
Diffinnir cysylltiad lleol fel:
- Wedi byw yn yr ardal ers dros 6 mis
- Wedi byw yn yr ardal am 3 allan o 5 mlynedd
- Wedi gweithio yn yr ardal am o leiaf 12 mis
- Gyda theulu agos (mam, tad, brodyr a chwiorydd, plant sy'n oedolion) sydd wedi byw yn yr ardal ers dros 5 mlynedd
Ni fyddwch yn cael eich ystyried ar gyfer y cynllun os:
- Mae gennych swm sylweddol o ôl-ddyledion yn ddyledus i landlord mewn cysylltiad â thenantiaeth yn ystod y 3 blynedd flaenorol a/neu rydym yn ymwybodol o faterion ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â thenantiaeth flaenorol
- Nid ydych yn gallu cynnal cyflwr eich llety dros dro
- Mae gan y Cyngor bryderon am eich gallu i gynnal tenantiaeth yn annibynnol ar hyn o bryd
- Rydych wedi defnyddio’r cynllun yn flaenorol o fewn y 12 mis diwethaf
- Mae arnoch arian i ni o hawl yn erbyn bond blaenorol
Mae’r bond yn cynnwys blaendal diogelwch sydd fel arfer yn daliad mis o rent. Os oes angen rhent ymlaen llaw, gallwn hefyd ystyried cyflenwi hyn drwy gynlluniau grant.
Gallwch gael cymorth gan Lwfans Tai Lleol. Mae Lwfans Tai Lleol yn Fudd-dal Tai ar gyfer pobl ar incymau isel sy’n rhentu gan landlordiaid preifat. Bydd y swm y gallwch hawlio yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Gallwch wirio eich hawl i fudd-daliadau drwy un o’r cyfrifianellau budd-daliadau isod.
www.turn2us.org.uk
www.entitledto.co.uk
Neu gallwch ffonio llinell gymorth Cyngor ar Bopeth, ‘Hawlio’r Hyn Sy’n Eiddo i Chi’ ar 0808 250 5700.
Mewn rhai achosion, os yw’r landlord yn gofyn am flaendal diogelwch a rhent ymlaen llaw, ac os nad all yr ymgeisydd fforddio hyn, gallwch ddarparu’r rhent ymlaen llaw drwy gynllun arall.
Mae’r bond yn cynnwys colled neu ddifrod heb yswiriant i’r tŷ a’i gynnwys (a restrir ar y rhestr eiddo / lluniau) y mae’r tenant yn gyfrifol amdano ar ddiwedd y denantiaeth.
Ôl-ddyledion rhent yn ystod cyfnod y Bond, yn amodol ar eglurder o’r ôl-ddyledion rhent.
Bydd y swm a gynhwysir ond hyd at werth y bond.
- Costau o ganlyniad i beidio â thalu Treth y Cyngor, nwy, trydan, cyfraddau dŵr ac unrhyw filiau cyfleustodau eraill
- Gwelliannau a gyflawnir gyda chaniatâd y landlord
- Traul gyffredinol
- Difrod bwriadol neu ddwyn gan denant os na adroddir i’r heddlu o fewn 24 awr i’r amser y mae’r landlord yn dod yn ymwybodol o’r golled neu ddifrod. Rhaid cael tystiolaeth gan yr heddlu ynghyd â rhif neu gofnod o’r digwyddiad.
- Cost unrhyw waith gosod sy’n ofynnol i’r landlord ei gynnal o dan gyfraith
- Difrod i eitemau tenant arall nad ydynt wedi’u rhestr ar y rhestr eiddo / lluniau.
- Unrhyw eiddo na restrir ar y rhestr eiddo neu a ychwanegir i’r rhestr yn ddiweddarach
- Difrod i adeiladau allanol, siediau, ffensys a waliau
- Gwaith garddio
- Fflatiau un ystafell a thai a rennir - Bydd y Bond ond yn cynnwys yr ystafell y mae’r cytundeb tenantiaeth yn gymwys (defnydd pwrpasol). Os yw’r difrod yn digwydd mewn ardaloedd a rennir megis ceginau ac ystafelloedd golchi, bydd y Bond ond yn cynnwys cyfran o’r hawl yn dibynnu ar nifer y preswylwyr yn yr eiddo.
Os yw’r deiliad contract (tenant) wedi difrodi’r eiddo neu gydag ôl-ddyledion rhent ar amser gadael yr eiddo, bydd angen i’r Landlord anfon y dystiolaeth berthnasol o’r difrod neu ôl-ddyledion i’r tîm Bond ar bondteam@flintshire.gov.uk. Bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â’r landlord i hysbysu beth fydd y camau nesaf.
Eich cyfrifoldeb chi yw dod o hyd i eiddo addas a landlord sy’n barod i gymryd rhan yn y cynllun. Fodd bynnag, ar rai achlysuron, gallwn roi manylion i chi o eiddo sy’n bodloni eich gofynion, y mae landlordiaid wedi’u dangos i ni.
Unwaith i chi ddod o hyd i eiddo addas a thrafod y cynllun bond gyda’r landlord, gallwch wneud cais ar-lein neu gallwch gysylltu â ni ar 01352 703811.
Rhaid i’r eiddo fod o fewn ardal Sir y Fflint a bodloni Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi. Byddwn yn cyflawni cyfres o wiriadau i sicrhau ei fod yn fforddiadwy, diogel ac yn bodloni isafswm gofynion cyflwr eiddo. Gall hyn gynnwys archwilio’r eiddo a chreu rhestr eiddo o’r cynnwys.
Ni allwch ddefnyddio’r cynllun hwn i gael mynediad at eiddo sydd â rhent rhy uchel neu’n anfforddiadwy neu os yw’r eiddo yn anniogel neu mewn cyflwr heb dystysgrif.
Os ydych chi eisoes wedi lleoli a gweld eiddo ac yn awyddus i wneud cais am y Cynllun Bond, dilynwch y ddolen isod.
Cais Cynllun Bond