Alert Section

Opsiynau Tai Amgen

Mae amrywiaeth o ddewisiadau tai eraill i'w hystyried yn dibynnu ar eich amgylchiadau;

- Cynlluniau perchnogaeth fforddiadwy
- Cynlluniau rhent canolradd
- Rhentu preifat
- Cynlluniau i helpu pobl i symud allan o'r ardal
- Cynlluniau gwella cartrefi neu wasanaethau addasu sy'n galluogi pobl i aros yn eu cartref presennol
- Tai â chymorth neu gymorth yn y cartref
- Tai gwarchod neu dai gofal ychwanegol

Gweler isod am ragor o wybodaeth am y gwahanol opsiynau yr hoffech eu harchwilio;

Gall tenantiaid presennol y Cyngor a Chymdeithasau Tai sydd am symud wneud cais am gyfnewid neu drosglwyddiad.

Gallwch ddefnyddio gwefan Homeswapper i ddod o hyd i gyfnewidfa addas naill ai yn Sir y Fflint neu yn rhywle arall.

 

Mae Tai Teg yn darparu dewisiadau gwahanol o ran tai fforddiadwy, yn cynnwys eiddo sydd ar werth neu ar gael i’w rhentu.  Mae Tai Teg yn rheoli’r gofrestr tai fforddiadwy/tai canolradd.  

Am fwy o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd cyfredol ac i ymgeisio ewch i Tai Teg - A ydw i’n gymwys i wneud cais?