Alert Section

Grant Gofal Plant a Chwarae 2023 - 2024


Mae’r Grant Gofal Plant a Chwarae yn darparu cyllid i gynorthwyo â chostau gofal plant i deuluoedd ar incymau isel;

  • i rieni sy’n mynd yn ôl i’r gwaith neu sydd eisiau gwneud cwrs hyfforddi; 
  • i alluogi mynediad i ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg;
  • i gefnogi lles plant. Mae cyllid cyfyngedig ar gael felly efallai na fyddwn yn gallu ariannu pob cais.

Mae’n rhaid i’r rhiant/gofalwr gyflwyno’r ceisiadau.

Os oes gennych chi fwy nag un plentyn, llenwch gais ar wahân ar gyfer pob plentyn.

Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried a’u hateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Os yw ceisiadau’n llwyddiannus, bydd y cyllid yn dechrau o’r diwrnod cymeradwyo a bydd y taliadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol i’r darparwr gofal plant bob mis.

Paratowch y dystiolaeth ganlynol cyn i chi wneud cais am y grant.

1. Ymgeiswyr sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith

  • Copïau o’ch cyfarfodydd gwaith gyda’ch hyfforddwr gwaith i ddangos eich bod chi’n chwilio am waith. 
  • Darparwch gopïau o brawf o incwm a budd-daliadau – holl dudalennau eich Datganiad Dyfarniad Credyd Treth diweddaraf neu’r tri mis diweddaraf o Gredyd Cynhwysol gan Gyllid y Wlad (gan ddangos yr holl dudalennau)

2. Ymgeiswyr sy’n dymuno mynychu hyfforddiant

  • Llythyr gan y darparwr hyfforddiant / coleg yn dangos dyddiad dechrau’r cwrs hyfforddi a hyd y cwrs.
  • Dau fis ar ôl dyddiad dechrau’r hyfforddiant, darparwch lythyr arall gan y coleg / prifysgol / cyrsiau hyfforddi i gadarnhau eich bod yn dal i fynychu’r hyfforddiant. 

3. Angen seibiant

  • Er lles y plentyn yn ystod argyfwng teuluol neu amgylchiadau arbennig - atodwch ddatganiad cefnogol gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol neu addysg. 

Cwblhewch y Grant Gofal Plant a Chwarae yma

I gael rhagor o gymorth gydag unrhyw gais am grant cysylltwch â ni ar 01352 703930 neu ebostiwch ChildcareDevelopmentGrants@flintshire.gov.uk