Alert Section

Urddas Mislif


Cynnyrch mislif cynaliadwy yn uniongyrchol i’ch drws

Ydych chi’n mynychu ysgol yn Sir y Fflint?

Ydych chi eisiau cael cynnyrch mislif ecogyfeillgar am ddim?

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth gyda chwmni cynnyrch mislif o’r DU, Hey Girls, i hyrwyddo urddas mislif a darparu cynnyrch mislif am ddim i ddrws eich tŷ! Mae hyn yn ychwanegol i’r cynnyrch mislif sydd yn cael ei ddarparu ym mhob ysgol ac mewn rhai lleoliadau cymunedol.

hey-girls

Mae dy fislif yn rhan naturiol o fywyd, a ddylet ti ddim teimlo cywilydd nac embaras am hynny. Gallwch ddewis cyfuniad o gynnyrch y gellir ei ailddefnyddio a rhai untro i reoli eich mislif. Mae’r holl gynnyrch untro hyn wedi cael eu creu o ddeunyddiau sy’n amgylcheddol gyfeillgar ac sy’n gallu pydru. Fel Cyngor sydd wedi ymrwymo i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030 felly rydym eisiau gallu eich cefnogi chi i ddefnyddio cynnyrch ailgylchadwy, y gellir ei ailddefnyddio ac sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.

Os ydych rhwng 8 a 18 oed ac yn mynychu yn Sir y Fflint, cliciwch ar y linc isod i lenwi ffurflen archebu Hey Girls:

Hey Girls ffurflen archebu cynnyrch mislif

Am ragor o wybodaetham mislif, cyngor a chefnogaeth ewch i: https://mislif-fi.cymru/

Creodd Social Change UK brosiect ‘Mislif Fi’ ar ran GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i agor y sgwrs a rhannu gwybodaeth am iechyd mislif, fel nad yw cenedlaethau o bobl ifanc yn dioddef yn dawel drwy fod ofn codi llais, neu drwy ddiffyg dealltwriaeth o beth sy’n normal pan ddaw hi at y mislif.