NEWydd round logo

Ynglŷn â NEWydd

Mae cwmni Arlwyo a Glanhau NEWydd yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol a grëwyd gan Gyngor Sir y Fflint i ddarparu gwasanaethau arlwyo a glanhau o safon uchel, sy’n hyfyw yn ariannol, yn gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar y cwsmer. Mae ein gwasanaethau’n cael eu darparu gan oddeutu 400 o weithwyr lleol i wella’r gefnogaeth yr ydym ni’n ei rhoi i’n cymunedau.  Rydym ni’n ymdrechu i fod y gorau yn yr ardal leol a sicrhau bod lefel boddhad ein cwsmeriaid yn 100%.  

Canteen2014-19

Mae gennym ni dîm rheoli â dros 100 mlynedd o brofiad at ei gilydd a’n nod ers tro o ran ein gwasanaethau yw cynnal ein henw rhagorol a rhoi'r cwsmer yn gyntaf bob amser. Mae NEWydd yn darparu gwasanaeth glanhau ac arlwyo i dros 200 o safleoedd ledled gogledd Cymru yn cynnwys 72 o ysgolion, 3 cartref gofal a dros 100 o safleoedd glanhau

Cawn ein hysgogi gan fenter cyngor lleol y mae’r holl elw y caiff ei gynhyrchu o’n busnes corfforaethol a phreifat yn cael ei fuddsoddi’n syth yn ôl yn yr ysgolion a’r ardaloedd hyfryd yr ydym ni’n gweithio ynddynt.

Canteen2014-23