Taliadau Uniongyrchol
Taliadau Uniongyrchol:
Beth yw Taliadau Uniongyrchol?
Os ydych yn gymwys am gymorth ar gyfer eich anghenion gofal, gall Cyngor Sir y Fflint roi’r arian i chi yn hytrach na gwasanaeth.
Gallwch ddefnyddio eich Taliadau Uniongyrchol i drefnu cefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch ffordd o fyw.
Mae cael Taliadau Uniongyrchol yn golygu y gallwch gael mwy o reolaeth dros y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, i allu gwneud dewisiadau pwysig am eich gofal, a chael llawer mwy o hyblygrwydd dros eich cefnogaeth na gofal a drefnwyd gan y cyngor.
Mae pobl yn Sir y Fflint yn defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu:
- Cefnogaeth gyda bywyd bob dydd a gweithgareddau
- Cefnogaeth i fynd hwnt ac yma
- Cefnogaeth gyda gofal personol
- Cefnogaeth sy’n helpu i gyflawni nodau personol
- Cyfarpar sy’n cefnogi eu hannibyniaeth
Mae cael Taliadau Uniongyrchol yn benderfyniad personol a fydd yn eich galluogi i gyflawni ansawdd bywyd gwell, gobeithio.
Rydym yn ymroddedig i ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, i bobl fel chi, er mwyn gwneud penderfyniad sy’n iawn i chi.
Mae gennym dîm Taliadau Uniongyrchol profiadol yn y cyngor, sydd yna i’ch cefnogi gydag unrhyw ymholiadau neu wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Byddwn yn ceisio rhoi gymaint o gymorth a sicrwydd gofynnol â phosibl i chi, nes eich bod yn teimlo’n hyderus i reoli trefniadau dros eich hun. Ond cofiwch, os ydych angen cefnogaeth neu gyngor o bryd i’w gilydd, dim ond un galwad i ffwrdd ydym ni.
Gwybodaeth gyswllt Taliadau Uniongyrchol:
Gwasanaeth Cefnogi Taliadau Uniongyrchol
01352 701100
dp.support@flintshire.gov.uk
Aelodau Tîm:
(Rheolwr Tîm Taliadau Uniongyrchol) – Mark Cooper.
(Swyddogion Cefnogi Taliadau Uniongyrchol) - Claire Tuft, Emily Kershaw, Harriet Weir, Sharon Stapley-Jones.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau gwybod mwy am Daliadau Uniongyrchol?
Er mwyn i chi gael Taliadau Uniongyrchol, mae angen i chi gael asesiad o’ch anghenion gofal. Os oes gennych weithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal, yna cysylltwch â nhw. Os ddim, ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ar 03000 858858 neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant ar 01352 701000.