Talu am Wasanaethau Gofal Dibreswyl
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniad tuag at gost eich Gwasanaethau Gofal Dibreswyl.
Cwblhewch yr adnodd ar y we i weld a ydych chi’n gymwys i ymgeisio am gymorth ariannol.
Bydd angen i chi fod â manylion manwl am eich cynilon a’ch buddsoddiadau a’ch incwm a thaliadau o'ch cyfrifon.
Bydd yn rhaid i chi dalu cost eich gofal yn llawn os oes gennych chi fwy na gwerth £24,000. Yr enw ar hwn ydi’r “Trothwy Cyfalaf”. Ni fyddwn yn cyfrif gwerth eich prif a'ch unig gartref tra byddwch chi'n parhau i fyw yno. Os oes piau chi eiddo nad ydych yn byw ynddo, bydd ei werth yn cael ei ystyried yn yr asesiad ariannol.
Os yw gwerth eich cyfalaf yn llai na £24,000, byddwch yn gymwys i gael arian tuag at gost eich gofal. Bydd angen i chi gwblhau asesiad ariannol gan y bydd angen i ni wirio’r holl wybodaeth sy’n cael ei rhoi.
Bydd Swyddog Budd-daliadau Lles o’r Cyngor yn ymweld â chi i lenwi’r ffurflen hawlio cymorth ariannol a’ch helpu i hawlio unrhyw fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt. Mae’n bwysig eich bod yn hawlio unrhyw fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt gan ein bod yn eu cynnwys yn y swm rydyn ni’n gofyn i chi ei dalu. Os oes gennych chi gymar, er mwyn cwblhau gwiriad budd-daliadau llawn, bydd angen i'r Swyddog Budd-daliadau Lles gael gweld manylion incwm a chyfalaf eich partner hefyd.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi nodi yn ei chanllawiau diwygiedig ar godi tâl tecach y dylai defnyddwyr gwasanaeth sy’n derbyn gwasanaethau gofal cartref gael eu gadael ag incwm gwario sydd 45% yn uwch na’r lefelau cymhorthdal incwm sylfaenol.
Byddwn yn edrych ar yr incwm a'r cyfalaf y gallwn ei asesu, yn tynnu lwfans mae Llywodraeth Cymru'n ei osod (y gwarant isafswm incwm) ac yna’n tynnu unrhyw wariant sy’n cael ei ganiatáu ar ôl i chi ddweud wrthym amdano. Faint o incwm sydd ar ôl yw’r swm y byddwn yn gofyn i chi ei dalu tuag at eich gofal a'ch cymorth.
Mae'r ‘gwarant isafswm incwm’ yn lwfans sy’n cael ei roi yn yr asesiad i dalu costau byw bob dydd. Mae’r lwfans yn dod o ganllawiau’r Llywodraeth a bydd yn dibynnu ar eich oedran, unrhyw anableddau ac amgylchiadau teuluol.
Gallwch ofyn i ni adolygu’r asesiad ar unrhyw adeg. Os oes camgymeriad wedi’i wneud neu rywbeth wedi’i anwybyddu, byddwn yn ei gywiro. Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei egluro i chi’n ysgrifenedig.
Byddwn yn anfon bil atoch chi neu’ch cynrychiolydd pob mis yn dangos faint mae angen i chi ei dalu. Gallwch dalu drwy:
- archeb sefydlog
- ein system dalu ar-lein
- ymweld â swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu
- gyda cherdyn banc dros y ffôn ar 01352 701318