Alert Section

Y ffyrdd sy'n cael blaenoriaeth


Mae Cyngor Sir y Fflint wedi adolygu ei bolisi Cynnal a Chadw dros y Gaeaf yn ddiweddar. Mae’r polisi nodi ffyrdd a gaiff eu graeanu os bydd y rhagolygon yn awgrymu y bydd yn rhewi. Drwy hyn, gellir sicrhau bod y Cyngor yn darparu’r un gwasanaeth i’r holl ffyrdd sydd â’r un nodweddion drwy’r sir. Yn dilyn yr adolygiad, penderfynwyd na fyddwn yn parhau i raeanu 3 o’n ffyrdd gwledig os rhagwelir y bydd tarw garw. Mae manylion y ffyrdd dan sylw i’w gweld ar y ddolen sydd ynghlwm. Not Precautionary Treated Maps (PDF 4MB)

Yn ystod cyfnodau o dywydd garw, rydym yn graeanu ac yn clirio’r eira oddi ar 414 milltir o ffyrdd ar y rhestr flaenoriaeth ar hyd a lled Sir y Fflint. Cadwch at y ffyrdd ar y rhestr flaenoriaeth i wneud yn siŵr bod y ffordd rydych yn bwriadu ei defnyddio wedi’i chlirio a’i graeanu.

Gweld map yn dangos y ffyrdd ar restr flaenoriaeth 1 Sir y Fflint (ffenestr newydd)

Y ffyrdd sy’n cael blaenoriaeth yw’r ffyrdd pwysicaf i ddefnyddwyr, sef y rhai y bydd pobl yn eu defnyddio i deithio at ddibenion busnes, hamdden, adloniant, addysg ac at ddibenion domestig. Mewn geiriau eraill, rhoddir blaenoriaeth iddynt er mwyn cynnal cysylltiadau trafnidiaeth i gynifer o gymuned ag y bo modd. Maent yn cynnwys tua 50% o briffyrdd y Sir ac o leiaf un ffordd fynediad i bob cymuned.

Sut y penderfynir ar y ffyrdd sy’n cael blaenoriaeth?

Penderfynir ar y ffyrdd sy’n cael blaenoriaeth yn ôl dosbarthiad a defnydd. Pan fydd y ffyrdd hyn wedi’u clirio, byddwn yn canolbwyntio ar y ffyrdd sy’n cael ail flaenoriaeth. Nid ydym yn clirio/graeanu ffyrdd heb eu mabwysiadu, rhodfeydd preifat. Rydym hefyd yn ystyried unrhyw newidiadau mewn ffyrdd / cynlluniau oherwydd datblygiadau newydd etc. Pan fydd y ffyrdd uchod yn glir, byddwn yn dechrau clirio’r ffyrdd llai. Fodd bynnag, os yw’r sefyllfa’n gwaethygu, byddwn yn troi’n ôl i ddelio â’r ffyrdd ar y rhestr flaenoriaeth.  

Mae’r holl ffyrdd yn Sir y Fflint wedi’u rhannu’n gategorïau Blaenoriaeth 1, 2 neu 3.

Blaenoriaeth 1 – ffyrdd sydd â thraffig trwm ac y mae angen eu harbed rhag rhewi drwy’r nos. Y ffyrdd hyn sy’n creu prif rhwydwaith ffyrdd yr Awdurdod rhoddir blaenoriaeth iddynt er mwyn sicrhau bod traffig yn symud yn rhwydd. 

Blaenoriaeth 2 - ffyrdd annosbarthedig sy’n creu’r prif lwybrau dosbarthu mewn ardaloedd trefol a gwledig ac ardaloedd lle cafwyd problemau yn y gorffennol h.y. rhannau serth o ffyrdd, ardaloedd agored neu sydd â nodweddion topograffig eraill. Caiff y ffyrdd hyn eu trin yn ystod cyfnodau hir o rew ac eira wedi i ffyrdd yng nghategori Blaenoriaeth 1 cael eu trin ac os bydd digon o adnoddau ar gael ar y pryd.    

Blaenoriaeth 3 – yr holl ffyrdd eraill. Caiff y ffyrdd hyn eu trin pan fydd yr adnoddau priodol ar gael ac ar ôl trin y ffyrdd yng nghategori Blaenoriaeth 1 a 2. Dim ond yn ystod oriau gwaith arferol y bydd y ffyrdd hyn yn cael eu trin.   

Mae canran y ffyrdd a gaiff eu cynnwys yng nghategori Blaenoriaeth 1 yn Sir y Fflint yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan.

Nid yw llwybrau troed na llwybrau beicio wedi’u cynnwys yn y rhestr flaenoriaeth. Fodd bynnag, os bydd wedi bwrw eira’n drwm neu wedi rhewi’n galed, bydd llwybrau troed sy’n cael eu defnyddio’n aml, yng nghanol y trefi er enghraifft, yn cael eu clirio a’u trin pan fydd yr adnoddau ar gael.

Newidiadau sydyn yn y tywydd

Pan fydd y tywydd yn newid yn sydyn, mae’n bosibl na fydd yr hyn a wnawn i drin y ffyrdd yn amlwg nac yn effeithiol. Cofiwch:

  • mae’n cymryd amser cyn i’r halen ddechrau gweithio;
  • gall glaw wanhau’r halen neu ei olchi oddi ar y ffyrdd, sy’n golygu y byddant yn debygol o rewi
  • os yw’r tywydd yn eithriadol o oer, ni fydd halen yn atal ffyrdd rhag rhewi;
  • pan fydd glaw yn troi’n eira yn ystod yr awr frys, bydd tagfeydd traffig yn rhwystro’r cerbydau graeanu rhag gwneud eu gwaith;
  • os yw’r tywydd yn eithriadol o ddrwg, ni fydd y cerbydau graeanu a chlirio hyd yn oed yn gallu teithio ar y rhwydwaith ffyrdd.

O dan rai amgylchiadau, ni fyddwn yn gallu ymateb mor gyflym ag arfer:

  • ar noson wlyb, ar ôl i’r awyr glirio’n sydyn, byddwn yn dechrau graeanu ar ôl i’r glaw beidio. Bryd hynny, gall y tymheredd ddisgyn yn sydyn iawn a gall y ffyrdd gwlyb rewi cyn i’n cerbydau fedru eu graeanu.
  • gall rhew ben bore effeithio ar ffyrdd sych. Mae hyn yn digwydd wrth i wlith ddatblygu yn y bore a  syrthio ar y ffordd oer a rhewi’n syth. Mae’n amhosibl rhagweld pryd neu ble y bydd hyn yn digwydd.

Sut ydw i’n rhoi gwybod am broblem ar ffordd sy’n cael blaenoriaeth?

Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd am 01352 701234.

Fedra’ i ofyn i chi ychwanegu ffordd at eich rhestr flaenoriaeth?

Caiff pob ffordd ei harchwilio cyn y gaeaf i benderfynu sut i’w dosbarthu o ran blaenoriaeth. Os ydych chi’n credu, fodd bynnag, bod cyflwr ffordd benodol yn aml yn ddigon peryglus i gyfiawnhau ei chynnwys ar y rhestr flaenoriaeth, yna gallwch gysylltu â ni a byddwn yn ystyried eich cais. Gan fod ein hadnoddau’n gyfyngedig, fodd bynnag, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu cytuno â’ch cais.

Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd am 01352 701234.