Alert Section

Biniau halen a phentyrrau o raean


Mae gennym tua 500 o finiau/pentyrrau o raean ar hyd a lled y Sir. Rydym wedi asesu lleoliad y biniau a’r pentyrrau halen presennol yn ôl meini prawf llym a gymeradwywyd gan yr Aelodau. Rydym wedi’u gosod mewn llefydd lle’r ydym yn gwybod y gall problemau godi e.e. elltydd serth, corneli drwg a chyffyrdd anodd.

Pam fod fy min halen lleol yn wag?

Caiff y biniau halen eu llenwi ar ddechrau tymor y gaeaf a’u hail-lenwi eto os bydd tywydd garw, os bydd halen y graig ar gael, a dim ond os oes angen.

Os cewch eich dal yn dwyn graean, byddwn yn dwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn.

Ni ddylech ddefnyddio’r graean yn y biniau hyn i raeanu llwybr neu ddreif preifat. Defnyddiwch y graean ar lwybrau troed ac ar y ffordd os oes problem. Os gwelwch bobl yn gwagu halen o’r biniau hyn neu’n os ydych yn amau ein bod wedi methu’r bin, rhowch wybod i ni gan roi gymaint o wybodaeth â phosibl e.e. disgrifiad o’r person neu rif cofrestru’r cerbyd etc.

Gall y graean garw yn y biniau hyn ddifrodi llwybrau preifat gan nad ydynt mor wydn â wyneb ffyrdd, felly os ydych yn ei ddefnyddio, mae’n bosibl y byddwch yn talu’n ddrud i drwsio’ch dreif yn y pen draw.  Os ydych yn talu i rywun raeanu’ch dreif, gofynnwch iddynt o ble gawsant y graean. Mae modd prynu graean addas o’r rhan fwyaf o siopau DIY lleol neu siopau defnyddiau adeiladu. 

A fydd yn Cyngor Sir yn darparu rhagor o finiau graeanu?

Mae pob bin graean yn costio £135 i’w osod a £60 i’w lenwi. Rydym yn gorfod arbed mwy o arian nag erioed o’r blaen yn ystod y blynyddoedd nesaf felly mae arian yn brin iawn. Byddwn yn ystyried ceisiadau newydd am finiau halen mewn safleoedd peryglus ar y priffyrdd cyhoeddus os oes angen, ac os yw’r adnoddau ar gael. Bydd angen i unrhyw safleoedd newydd fodloni’r meini prawf priodol fel y nodir ym Mholisi Cynnal a Chadw’r Cyngor dros y Gaeaf. 

Bydd yr holl Gynghorau Cymuned yn gallu prynu biniau halen a halen y graig gan y Gwasanaethau Stryd er mwyn ategu Gwasanaethau Cynnal a Chadw’r Awdurdod dros y gaeaf er lles y cyhoedd. Bydd y biniau halen a brynir gan y Cynghorau Cymuned ac a gaiff eu gosod ar y priffyrdd mabwysiedig gyda chymeradwyaeth y Gwasanaethau Stryd yn wahanol i finiau halen y Gwasanaethau Stryd, a’r Cynghorau Cymuned fydd yn eu cynnal a chadw.

Mae fy min graean lleol wedi’i fandaleiddio, fedrwch chi helpu?

Mae biniau graean yn aml yn cael eu fandaleiddio. Os yw hyn yn datblygu’n niwsans na allwch ei oddef rhagor, gallwch ofyn i ni ei symud. Bydd angen i bawb sy’n byw gerllaw gytuno.

Rhagor o wybodaeth

I roi gwybod am fin graeanu gwag neu fin sydd wedi’i fandaleiddio, ffoniwch 01352 701234