Alert Section

Ymyraethau a chyngor


Yr hyn a wnawn ni

  • rhoi cyngor i fusnesau ynghylch sut i gydymffurfio â’u dyletswyddau
  • gorfodi deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a rhoi cyngor mewn perthynas â gweithleoedd a gweithgareddau gwaith penodol
  • archwilio i ddigwyddiadau a gofnodir a hysbysiadau swyddogol (adroddiadau ar offer lifft, llestri pwysedd, derbynyddion aer ayb)
  • arolygu a monitro sefydliadau tyllu croen a gwelyau haul i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac is-ddeddfau
  • gweithio mewn partneriaeth â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wrth fynd i’r afael â phynciau lleihau damweiniau a chlefydau â blaenoriaeth.

Ymhle Ydym ni’n Gorfodi Iechyd a Diogelwch?

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac Awdurdodau Lleol fel Cyngor Sir Y Fflint yn gorfodi cyfreithiau iechyd a diogelwch. Yn gyffredinol, prif weithgaredd eiddo sy’n pennu’r awdurdod gorfodi.

Yn gyffredinol, mae swyddogion gorfodi Cyngor Sir Y Fflint yn cwmpasu:

  • Eiddo manwerthu
  • Warysau (cadwyn manwerthu/cyfanwerthu)
  • Swyddfeydd
  • Arlwyo
  • Gwestai a chartrefi gofal preswyl ayb
  • Gwasanaethau defnyddwyr mewn siop
  • Gweithgareddau hamdden
  • Lletyau anifeiliaid ayb
  • Gofal plant mewn eiddo annomestig
  • Mannau addoli

Yn gyffredinol, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cwmpasu popeth arall, e.e. ffatrïau, safleoedd adeiladu, ffermydd, ffeiriau, chwareli, rheilffyrdd, ysbytai, ysgolion a cholegau.

Gallwch gysylltu â’r HSE ar 0300 0031647.

Cewch wybodaeth ar sut i leisio pryder gyda’r HSE ynghylch gweithle yma (ffenestr newydd).

Mae’r gwaith a wnawn yn unol â’r Cod (ffenestr newydd) Gorfodi Awdurdod Lleol Cenedlaethol a luniwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ganllaw i awdurdodau lleol ar ymyraethau mewn mathau penodol o eiddo a chanddynt y risgiau mwyaf.

Cysylltwch â ni

Adran Gorfodi Iechyd a Diogelwch, Gwarchod y Cyhoedd

Cyngor Sir Y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint, CH7 6NA

Ffôn     01352 703381

Ffacs   01352 703441

health.safety@flintshire.gov.uk