Alert Section

Trwyddedu siopau anifeiliaid anwes


Crynodeb o’r drwydded 

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol arnoch chi i gynnal busnes yn gwerthu anifeiliaid anwes.  Mae hyn yn cynnwys yr holl fasnachu anifeiliaid anwes yn fasnachol, sy’n cwmpasu siopau anifeiliaid anwes a busnesau sy’n gwerthu anifeiliaid anwes ar y rhyngrwyd. 

Meini prawf cymhwysedd 

Ni ddylai ymgeisydd am drwydded siop anifeiliaid anwes fod wedi’i wahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes. 

Rhaid talu ffi, a bennir gan yr Awdurdod Lleol, gyda’r cais. 

Crynodeb o’r rheoliadau 

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Anifeiliaid Anwes 1951)

Proses gwerthuso cais 

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried yr isod wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid: 

Y bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas, er enghraifft, o ran tymheredd, maint, goleuo, awyru a glanweithdra 

Y bydd bwyd a diod digonol yn cael ei roi i’r anifeiliaid ac y bydd rhywun yn cadw llygad arnyn nhw yn rheolaidd 

Na fydd unrhyw anifeiliaid sy’n famolion yn cael eu gwerthu’n rhy ifanc

Bod camau’n bodoli i atal clefyd rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid

Bod darpariaethau tân ac argyfwng digonol yn bodoli 

Gellir rhoi amodau ar drwydded i sicrhau cydymffurfio â’r uchod. 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Ffioedd a thalu

Mae’r ffi(oedd) ar gyfer y cais hwn fel a ganlyn: £318.66

Gwneud cais ar-lein 

Cais am drwydded siop anifeiliaid anwes (ffenestr newydd)

Ein hysbysu am newid i’ch siop anifeiliaid anwes bresennol (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gall unrhyw unigolyn y gwrthodir trwydded iddo gyflwyno apêl i’r llys ynadon. 

Gwneud iawn i’r Deilydd Trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gall unrhyw unigolyn sy’n gwrthwynebu amod ynghlwm â thrwydded gyflwyno apêl i’r llys ynadon

Cwyn gan ddefnyddiwr

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Manylion cyswllt

Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703030

E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk

Cymdeithasau/mudiadau’r diwydiant

Pet Care Trust (PCT) (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO