Alert Section

Trwyddedu sinema a siop ryw


Crynodeb o’r drwydded 

Bydd angen trwydded gan yr awdurdod lleol arnoch chi i weithredu siop ryw – h.y. unrhyw safle sy’n gwerthu teganau, llyfrau neu fideo rhyw.  Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol hefyd i gynnal lleoliad lle dangosir ffilmiau i oedolion i’r cyhoedd. 

Fodd bynnag, cewch wneud cais i’r awdurdod lleol yn gofyn iddo hepgor y gofyniad i gael trwydded.  

Meini prawf cymhwysedd 

Rhaid i ymgeisydd:

  • Fod yn 18 oed o leiaf  
  • Fod yn gymwys i ddal trwydded a heb ei wahardd rhag gwneud hynny
  • Fod wedi byw yn y Deyrnas Unedig am o leiaf chwe mis yn union cyn gwneud y cais neu, os yw’n gorff corfforaethol, wedi ei ymgorffori yn y Deyrnas Unedig 
  • Fod heb ei wrthod o ran rhoi neu adnewyddu trwydded i’r safle dan sylw yn ystod y 12 mis diwethaf, onibai bod y gwrthodiad wedi’i wyrdroi yn dilyn apêl 

Crynodeb o’r rheoliadau

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982)

Proses gwerthuso cais 

Bydd ffioedd yn daladwy gyda’r cais, a gellir rhoi amodau ar y drwydded.   

Rhaid i’r cais gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol, ynghyd ag enw a chyfeiriad yr ymgeisydd a, lle bo’r ymgeisydd yn unigolyn, ei oedran a chyfeiriad y safle. 

Rhaid i’r ymgeisydd hysbysu’r cyhoedd am y cais trwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol. 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Na fydd.  Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded.  Os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r adran berthnasol.  Cewch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch chi gyflwyno eich cais trwy’r gwasanaeth UK Welcomes (ffenestr newydd) neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod. 

Ffioedd a thalu

Mae’r ffi (oedd) ar gyfer y cais hwn fel a ganlyn: £1142.57

Gwneud cais ar-lein

Cais am drwydded sinema a siop ryw (ffenestr newydd)

Cais i newid trwydded sinema a siop ryw (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Caiff unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi trwydded iddo, neu y gwrthodir adnewyddu ei drwydded, gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o’i hysbysu am wrthod y cais. 

Fodd bynnag, nid yw’r hawl i gyflwyno apêl yn berthnasol lle gwrthodwyd y drwydded ar y sail bod:

  • Nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal yn goresgyn y nifer mae’r awdurdod yn ei ystyried yn briodol 
  • Rhoi’r drwydded yn amhriodol o ystyried cymeriad yr ardal, natur adeiladau a safleoedd eraill yn yr ardal, neu’r safle ei hun 

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Dylai deilydd trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod gyflwyno apêl i lys ynadon lleol.     

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Gall deilydd trwydded wneud cais i’r awdurdod ar unrhyw adeg i amrywio telerau, amodau neu gyfyngiadau eu trwydded. 

Os gwrthodir cais i amrywio trwydded, neu os diddymir trwydded, gall deilydd y drwydded gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol ynghylch gosod telerau, amodau neu gyfyngiadau ar y drwydded neu wrthod amrywio’r rhain neu ddiddymu’r drwydded cyn pen 21 diwrnod o’i hysbysu am osod y rhain. 

Hefyd gall deilydd trwydded gyflwyno apêl i lys y goron yn erbyn penderfyniad llys ynadon. 

Gwneud iawn mewn achosion eraill 

Gall unrhyw unigolyn sy’n gwrthwynebu cais i roi, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded gyflwyno eu gwrthwynebiad i’r awdurdod perthnasol, yn ysgrifenedig, gan nodi sail y gwrthwynebiad, cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad y cais. 

Manylion cyswllt

Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703030

E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk

Mewn partneriaeth â EUGO