Alert Section

Cerdded



Hawliau Tramwy

Yn ôl y gyfraith mae hawliau tramwy cyhoeddus yn briffyrdd, sef llwybrau diffiniedig y mae gan y cyhoedd hawl i’w defnyddio. Mae 1056.2 km o hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir y Fflint. Gallwch eu gweld ar ein map rhyngweithiol o Hawliau Tramwy ar-lein.

Teithiau Cerdded sy'n cael eu Hyrwyddo

Mae’r Tîm Mynediad wedi bod yn llunio amrywiaeth o deithiau cerdded i hyrwyddo Iechyd a Lles, sy’n amrywio o 1-2 filltir ac yn cymryd llai nac awr. Gweler y dolenni isod a fydd yn cael eu diweddaru a bydd llwybrau newydd yn cael eu hychwanegu dros y flwyddyn.

Yr Hob & Caergwrle
Dolen i Map (PDF)
Dolen i fideo 3D

Castell Fflint
Dolen i Map (PDF)
Dolen i fideo 3D   

Pwynt Fflint
Dolen i Map (PDF)
Dolen i fideo 3D   

Caerwys
Dolen i Map (PDF)
Dolen i fideo 3D   

Ewloe
Dolen i Map (PDF)
Dolen i fideo 3D      

Bwcle - Parc Etna
Dolen i Map (PDF)
Dolen i fideo 3D  

 

Llyfryn Teithiau Cerdded Gwledig

Mae llyfryn Teithiau Cerdded Gwledig Sir y Fflint yn argymell 25 o deithiau cerdded gorau’r sir ac yn cynnwys mapiau, cyfarwyddiadau a ffotograffau lliw, yn ogystal â llawer o straeon lleol. Yn ogystal â Bryniau Clwyd a grybwyllir uchod, gallwch archwilio glannau afonydd tawel, dyffrynnoedd coediog a thir amaethyddol tonnog Llanasa, Ysgeifiog, Chwitffordd a Chaergwrle. Dewch i ddarganfod arfordiroedd llawn bywyd gwyllt Talacre ac aber Afon Dyfrdwy. Neu am dro bach gwahanol, beth am ddarganfod y straeon cyfoethog am dreftadaeth ddiwydiannol Helygain, Maes Glas a Bwcle?

Rhaglen Troedio Sir y Fflint

Mae'r prosiect ‘Troedio Sir y Fflint’, a ddechreuwyd fel rhan o'r fenter Cerdded Llwybr Iechyd, wedi llunio cyfres o deithiau cerdded i helpu pobl i reoli eu pwysau, cadw'n heini ac aros yn iach. Mae'r teithiau cerdded yn cael eu graddio yn ôl pellter, nifer a graddfa’r llethrau a'r math o wyneb, ac maent yn addas i bob gallu.  Maent yn cael eu harwain gan arweinwyr cerdded gwirfoddol. Darllenwch fwy am y Rhaglen Troedio Sir y Fflint 

Bryniau Clwyd

Dynodwyd yr ardal hon yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1985.  Mae’n cynnwys llawer o rostir, bryniau llawn grug, creigiau a dyffrynnoedd calchfaen sy’n cynnig golygfeydd gwych a llwybrau tawel.  P'un a ydych yn teithio ar droed neu feic, mae Bryniau Clwyd yn lle delfrydol i ddianc ac mae rhywbeth yno i bob gallu, o deuluoedd i selogion.

Mae gwefan AHNE Bryniau Clwyd yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio’ch ymweliad â'r ardal.  

Aber Afon Dyfrdwy a Sir y Fflint

Mae’r aber llanwol ariannaidd hwn ar ymyl ddwyreiniol Môr Iwerddon rhwng Bryniau Clwyd a Phenrhyn Cilgwri yn rhyngwladol bwysig ar gyfer adar, planhigion ac anifeiliaid. Mae traethau eang a bryniau tywodlyd Talacre yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer cerddwyr. Mae gwefan Adar Aber y Dyfrdwy yn rhestru’r ardaloedd gorau i wylio adar ar Aber y Dyfrdwy ac yn darparu mapiau manwl a’r newyddion diweddaraf i wylwyr adar selog ac achlysurol fel ei gilydd.