Alert Section

Hygyrchedd


Mae safonau hygyrchedd yn gyrru datblygiad y wefan hon ymlaen ac rydym yn ymroddedig i ddarparu gwefan ddefnyddiadwy  i bob ymwelydd waeth beth fo’u galluoedd neu eu hanableddau.

Mae gwefan fwy hygyrch fel arfer yn arwain at wefan sy’n haws i bawb ei defnyddio.

Mae’r wefan yn ymgorffori egwyddorion 'plain English' ac mae wedi'i datblygu yn unol â chanllawiau W3C.  Mae'r rhain yn cynnwys XHTML trawsnewidiol, canllawiau WCAG a thaflenni arddull rhaeadrol (CSS).


WCAG (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We) 

Mae gofyn i holl wefannau'r sector cyhoeddus gyflawni canllawiau WCAG (ffenestr newydd) o ran hygyrchedd i safon Lefel A a dylent anelu at fodloni safon Lefel AA.  Rydym wedi datblygu'r wefan yn unol â'r canllawiau hyn fodd bynnag mae'n anodd iawn cynnal a chadw gwefan sydd â mwy na 20,000 o dudalennau i'r safonau uchel hyn.

Tair A y WAI yw'r lefel hygyrchedd uchaf a dyma'r safon y byddwn yn ymdrechu i'w chyraedd drwy waith datblygu pellach.

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu WCAG 2.0, sef fersiwn newydd o'r canllawiau WCAG gwreiddiol a ddisgrifir uchod.  Byddwn yn anelu at gyflawni'r gofynion hyn.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch ymholiad at y Gwasanaethau Cwsmeriaid.


Gwelywio

Ar draws rhan uchaf ac ochrau'r tudalennau mae meysydd gwelywio a fydd yn eich cynorthwyo i welywio'r wefan.  Uwchben prif gynnwys y tudalennau fe welwch arwyddion sy'n dangos i chi lle yr ydych o fewn y wefan.

Bydd y meysydd gwelywio ar yr ochr chwith yn newid wrth i chi ddefnyddio gwahanol rannau o'r wefan.

Bydd y meysydd gwelywio ar yr ochr dde yn dangos dogfennau defnyddiol, gwybodaeth ddefnyddiol a dolenni gwe allanol os yw hynny'n briodol i'r rhan honno o'r wefan.

Gallwch hefyd ddod o hyd i dudalennau'n gyflym ac yn hawdd yn ein mynegai A-Y.


Chwilio

Gallwch roi allweddeiriau neu ymadroddion yn y blwch chwilio a welir ar ochr dde uchaf pob tudalen we ac yna dylech naill glicio ar yr eicon chwyddwydr neu wasgu enter/return ar eich bysellfwrdd.  Caiff eich canlyniadau eu dychwelyd a thrwy glicio ar un ohonynt cewch eich hebrwng i'r dudalen honno.

Mae pob tudalen maes lefel uchaf yn dangos gwybodaeth am y maes hwn sy'n cynnwys ei feysydd ail lefel sydd â theitlau y gellir clicio arnynt a chrynodebau o'u cynnwys e.e. Busnes

Mae pob tudalen maes ail lefel yn dangos gwybodaeth am y maes hwn gan gynnwys ei feysydd trydydd lefel sydd â theitlau y gellir clicio arnynt a chrynodebau o'u cynnwys e.e. Busnes > Safonau Masnach

Mae pob tudalen maes trydydd lefel yn dangos tudalennau cysylltiedig ar gyfer y wybodaeth hon sy'n cynnwys dolenni y gellir clicio arnynt i bob cynnwys ar y trydydd lefel hwnnw e.e. Busnes > Ardrethi Busnes > Manylion Cyswllt.


Map Rhyngweithiol

Mae mapio rhyngweithiol yn rhaglen we graffigol ddwys ac ar hyn o bryd nid yw'n gallu ymgorffori safonau hygyrchedd yn llawn.  Rydym yn gweithio gyda'n cyflenwr meddalwedd i wneud y maes hwn yn fwy hygyrch.


Cyfyngiadau Hygyrchedd 

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Dogfennau Adobe PDF y gellir eu lawrlwytho
  • Dogfennau Microsoft Word, Excel a PowerPoint y gellir eu lawrlwytho
  • Rhaglenni gwe megis y Gwasanaeth Catalog Llyfrgelloedd ac YouTube

Rydym yn gwneud pob ymdrech i oresgyn y problemau hyn drwy wneud gwelliannau i'w hygyrchedd; os methwn â gwneud hynny, rydym yn darparu dewisiadau hygyrch eraill.


Lawrlwytho Dogfennau

Mae nifer o ddogfennau Adobe PDF (Fformat Dogfen Symudol) a Microsoft Word ar y wefan. Os ydych yn cael trafferth agor y ffeiliau hyn efallai y bydd angen meddalwedd ychwanegol arnoch:

Ar gyfer dogfennau PDF Adobe, lawrlwythwch y feddalwedd Adobe Reader ddiweddaraf (yn agor mewn ffenestr newydd)

Ar gyfer dogfennau Microsoft Word, lawrlwythwch y feddalwedd Word Viewer ddiweddaraf (yn agor mewn ffenestr newydd)

Os oes angen y dogfennau arnoch mewn fformatau eraill (megis testun plaen neu Braille) neu os ydych yn cael unrhyw anawsterau o ran hygyrchedd ein gwefan, cysylltwch â ni drwy'r Gwasanaethau Cwsmeriaid .

Nid yw Cyngor Sir y Fflint yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am raglenni trydydd parti.  Wrth ddewis unrhyw raglenni trydydd parti, rydym yn sicrhau fod safonau hygyrchedd uchaf yn cael eu defnyddio i sicrhau y gall holl ddefnyddwyr ein gwefan eu defnyddio. 

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Cyngor Sir y Fflint