Alert Section

Cyfamod Lluoedd Arfog Sir y Fflint


Mae’r wefan hon yn ddull o sicrhau bod cymuned y Lluoedd Arfog yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt, yn lleol yng nghymuned Sir y Fflint, ac yn ehangach.

Os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog, yn gyn-filwr, yn aelod o'r teulu neu’n ŵr neu’n wraig weddw i gyn-filwr, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i sicrhau’ch bod yn cael y cymorth a’r hawliadau  sy’n ddyledus i chi. 


Pwy sy'n rhan o gymuned y lluoedd arfog? 

Mae cymuned y lluoedd arfog yn cyfeirio at bawb sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Fyddin, y Llynges, y Llu Awyr Brenhinol a'r Llynges Fasnachol (yn ystod gwrthdaro). Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys aelodau agos o'r teulu a dibynyddion y rhai sydd wedi gwasanaethu. 


Sut y gallaf ddod o hyd i'r help sydd ei angen arnaf?

Mae amrywiaeth eang o wasanaethau, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer cymuned y lluoedd arfog, ar gael gan Lywodraeth Leol, y Weinyddiaeth Amddiffyn a chyrff yn y trydydd sector. Yn aml, gall fod yn ddryslyd ceisio dod o hyd i'r cyrff gorau i’ch helpu. 

Pryd bynnag y byddwch yn gofyn am wasanaeth, gofalwch eich bod yn dweud wrthym eich bod yn aelod o gymuned y lluoedd arfog. Yn aml iawn, mae rheolau arbennig sy'n berthnasol i aelodau'r gymuned mewn perthynas â gwasanaethau Llywodraeth Leol, ac rydym am sicrhau eich bod yn elwa ar y rhain. 


Y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sir y Fflint

Catrawd (Cymru) Y Corfflu Logisteg Brenhinol 157, Sgwadron Cludiant (Sir Fflint a Rhydd-Ddeiliad Sir Ddinbych) 398
Canolfan Adfyddin FC Harry Weale 
Station Road 
Queensferry
Sir y Fflint
CH5 2TE