Alert Section

Beth yw rheoli adeiladu?


Mae’r Gwasanaeth Rheoli Adeiladu yn gyfrifol am sicrhau bod gwaith adeiladu’n cael ei gwblhau’n unol â’r Rheoliadau Adeiladu.

Caiff Rheoliadau Adeiladu eu cymeradwyo gan y Senedd ac maent yn gosod safonau penodol y mae’n rhaid cadw atynt yn ystod y gwaith cynllunio ac adeiladu sy’n digwydd mewn eiddo domestig a masnachol. Mae’r safonau hyn yn sicrhau iechyd a diogelwch pobl mewn adeiladau ac o’u hamgylch ac maent yn darparu ar gyfer ffactorau fel mynediad i adeiladau i bobl anabl, dulliau o ddianc rhag tân a chadwraeth ynni. 

Os yw unrhyw waith ar eiddo’n effeithio ar strwythur yr adeilad neu ar ddulliau o ddianc rhag tân, bydd angen caniatâd o dan y Rheoliadau Adeiladu. Mae angen caniatâd ar gyfer gwaith fel codi estyniad, troi croglofft yn ystafell, gwaith mewnol sy’n effeithio ar strwythurau sy’n dal pwysau, codi rhai adeiladau ar wahân, newid system draenio, gosod to newydd, newid defnydd adeilad a thrawsnewid adeiladau.

Beth yw dogfennau cymeradwy?

Mae 13 rhan i’r Rheoliadau.  Mae “Dogfen Gymeradwy” sy’n cynnwys arweiniad ymarferol a thechnegol ar fodloni’r gofynion. Maent yn ymdrin â materion fel strwythur, diogelwch tân, awyru, draenio, cadwraeth ynni a mynediad a chyfleusterau i bobl anabl.Gellir lawrlwytho’r fersiwn diweddaraf o’r Dogfennau Cymeradwy ar-lein a hynny am ddim ar fformat Adobe PDF opddi ar y wefan Porth Cynllunio.   Neu gallwch eu prynu gan y Llyfrfa drwy ffonio 0870 600 55 22.

A yw Rheoliadau Adeiladu’r un fath â Rheoliadau Cynllunio?

Nac ydynt. Mae deddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref yn gwbl ar wahân i Reoliadau Adeiladu. Mae’n bosibl y bydd angen Caniatâd Cynllunio am waith rydych yn bwriadu ei wneud a dylech gael y caniatâd hwn cyn cyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu.