Alert Section

Newyddlen Newid Hinsawdd Rhif 6


Sut allwn ni reoli ein gwastraff yn well?

Er ei bod yn hynod bwysig ein bod ni’n ailgylchu’r hyn allwn ni, mae yna bethau eraill y gallwn ni eu gwneud cyn hynny i leihau’r gwastraff rydym ni’n ei gynhyrchu yn y lle cyntaf. Gallwn wneud hyn drwy edrych ar yr hyn rydym ni’n cael gwared arno a gweld a oes yna bethau eraill y gallwn ni eu gwneud.

Y peth cyntaf y gallwn ni ei wneud yw atal gwastraff. Dyma’r dewis gorau i reoli gwastraff gan ei fod yn atal cynhyrchu gwastraff yn y lle cyntaf. Gallai hyn olygu prynu eitemau fel ffrwythau a llysiau yn rhydd, fel nad oes gennym ni becynnau plastig i gael gwared arnyn nhw, neu, yn lle prynu cinio mewn cynhwysydd parod, fe allem ni baratoi bocs bwyd gartref drwy wneud brechdanau/salad ac ati i’w lenwi.

Ailddefnyddio yw’r ail gam wrth geisio lleihau gwastraff. Rydym ni wedi ceisio atal y gwastraff yn y lle cyntaf, ond mae yna rai pethau sydd ond yn dod mewn pecynnau. Allwn ni ailddefnyddio cynhyrchion nad ydyn nhw’n wastraff eto ar gyfer yr un diben ag y cawson nhw eu creu? Er enghraifft, ailddefnyddio cynwysyddion bwyd i fynd, poteli diod, poteli hylifau glanhau y gellir eu hail-lenwi mewn mannau pwrpasol.

Ailgylchu yw’r cam olaf. Allwn ni ddim atal y gwastraff, allwn ni ddim ailddefnyddio’r gwastraff, felly tybed allwn ni ailgylchu’r gwastraff? Mae’n bosib ailgylchu mwy o amrywiaeth o eitemau bellach, o’r papur, plastig, tuniau a gwydr arferol i eitemau llawer mwy amrywiol. Ar ôl i ni wahanu’r eitemau ac iddyn nhw gael eu casglu i’w hailgylchu, maen nhw’n cael eu torri i lawr a’u hail-ddefnyddio er dibenion eraill.

Sut mae lleihau ein gwastraff yn helpu’r blaned?

Mae’n bwysig lleihau gwastraff gan mai nifer cyfyngedig o adnoddau sydd yna yn y byd. Mae ailddefnyddio ac ailgylchu yn helpu lleihau’r angen am adnoddau naturiol newydd fel tanwyddau ffosil, sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft, am bob tunnell o bapur y byddwn ni’n ei ailgylchu, gellir arbed 17 coeden a 50% o’r dŵr. Gan fod coed yn amsugno carbon, mwya’n y byd o goed sydd yna, mwya’n y byd o garbon sy’n cael ei amsugno!

Drwy ailgylchu, mae’n bosib y gallem ni leihau allyriadau carbon ar gyfradd gyfwerth â 10.4-11.2Gt o allyriadau carbon deuocsid rhwng 2020-2050. Amcangyfrif yn unig yw hyn, ond mae’n dangos pa mor bwysig yw ailgylchu wrth fynd i’r afael ag allyriadau carbon.

Os nad ydych chi’n siŵr beth allwch chi ei roi yn eich biniau ailgylchu, mae gennym ni dudalen llawn gwybodaeth am pa eitemau sy’n gallu cael eu hailgylchu a beth na ellir ei ailgylchu. Neu i gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad, ewch i gael golwg ar wefan Cymru yn ailgylchu.

Wythnos Ailgylchu – 16 i 22 Hydref 2023.

Canolbwynt wythnos ailgylchu eleni yw “Eitemau coll”, sy’n cychwyn sgwrs am yr eitemau hynny y mae posib eu hailgylchu, ond nad ydi pobl yn gwneud hynny fel arfer. Dyma’r eitemau sydd i’w gweld o amgylch y tŷ yn gyffredin, fel poteli hylif glanhau, caniau erosol, ffoil a photeli siampŵ/hylifau ‘molchi plastig. Mae’r rhain i gyd yn cael eu derbyn yn eich casgliad ailgylchu ymyl palmant. Gallwch ddysgu mwy a gweld sut gallwch chi gymryd rhan yn yr wythnos ailgylchu yma. Os nad oes unrhyw ddigwyddiadau lleol yn cael eu cynnal yn eich ardal chi, rhowch gynnig ar un o’r hybiau casglu sbwriel lleol ac ewch ati i gasglu sbwriel o amgylch eich ardal leol.

Wyddech chi?

Aeth ein Tîm Newid Hinsawdd i Sioe Dinbych a Fflint yn ddiweddar i annog y teulu cyfan i gymryd rhan mewn trafodaethau am newid hinsawdd. Rhoddwyd cyfle i blant wneud addewidion am sut yr hoffen nhw helpu’r blaned, gan roi medalau ‘cefnogwr hinsawdd’ pren iddyn nhw fel gwobr, a luniwyd â llaw gan y tîm newid hinsawdd.

Fe lwyddom ni i ymgysylltu â nifer o drigolion Sir y Fflint a’r cyffiniau yn Sioe Dinbych a Fflint, ond byddem yn gwerthfawrogi eich barn chi am y gwaith rydym yn ei wneud ar newid hinsawdd. Os oes gennych chi unrhyw adborth am yr hyn rydych chi wedi’i weld mewn e-newyddlenni neu ar ein tudalen ar y we, mae croeso i chi anfon neges e-bost atom yn climatechange@siryfflint.gov.uk

Denbigh and Flint show

Lleihau allyriadau CO2 o fewn y Cyngor

Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n galed i leihau ei allyriadau carbon dros y blynyddoedd, a bu iddo fabwysiadu strategaeth a chynllun gweithredu Newid Hinsawdd ym mis Chwefror 2022. Mae’r cynllun wedi’i rannu’n 5 thema: adeiladau; caffael; defnydd tir; ymddygiad; symudedd a chludiant. Rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, gwelwyd gostyngiad yn ein hallyriadau mewn adeiladau ac mewn symudedd a chludiant o’i gymharu â’n blwyddyn sylfaen, sef 2018/19. Mae’r adroddiad cynnydd blynyddol llawn i’w weld ar lein.

Mae gwaith parhaus i arbed ynni ar adeiladau ac asedau sy’n eiddo i’r Cyngor wedi arwain at ostyngiad o 3% mewn gwresogi adeiladau, gostyngiad o 37% mewn trydan adeiladau a gostyngiad o 44% mewn trydan goleuadau stryd. Mae enghreifftiau o’r gwaith a wnaed yn cynnwys uwchraddio i oleuadau LED, gwell ynysu a System Rheoli Adeiladau (BMS) sy’n helpu gwella rheolaeth ynni. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn paneli solar PV, y soniwyd amdanyn nhw yn un o’n newyddlenni blaenorol. Roedd allyriadau carbon cyffredinol ein Hadeiladau yn 2021/2022 yn 8,543 tCO2e, sef gostyngiad o 13% ers 2018/19.

Yn dilyn y pandemig, dechreuodd nifer o’n gweithwyr ddilyn patrwm gweithio hybrid ac mae nifer o’n cyfarfodydd bellach yn cael eu cynnal ar y we yn hytrach na bod aelodau’n teithio i leoliad penodol. Yn sgil hyn, rydym yn parhau i weld gostyngiad mewn teithio i'r gwaith a theithiau busnes. Rydym hefyd wedi bod yn defnyddio technoleg teithiau effeithlon ar gyfer ein cerbydau fflyd er mwyn lleihau teithiau diangen. Mae hyn wedi lleihau ein hallyriadau carbon o ran symudedd a chludiant. Gwelwyd gostyngiad o 51% mewn teithiau busnes, gostyngiad o 11% mewn teithio i’r gwaith a gostyngiad o 15% yn nheithiau ein cerbydau fflyd (cerbydau gwastraff, cerbydau glanhau, faniau ac ati). Roedd ein hallyriadau carbon cyffredinol o ran symudedd a chludiant yn 2021/2022 yn 5,504 tCO2e, sef gostyngiad o 16% ers 2018/19.

CO2

Y Mis Yma!

Glanhau’r traethau – 15 i 24 Medi 2023.

Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn gweithio ar lanhau traethau ar hyd a lled y DU. Mae eu prif ddigwyddiad, sef Glanhau Traethau Prydain Fawr, yn annog pobl i gymryd rhan. Mae’r data am sbwriel y maen nhw’n ei gasglu yn helpu sbarduno gwaith cadwraeth ac yn helpu ymgyrchu ar gyfer newid. Mae rhai o’r effeithiau cadarnhaol y maen nhw wedi’u cyflawni yn cynnwys cyflwyno’r ffi am fagiau plastig, gwahardd microblastigau mewn nwyddau gofal personol a chefnogi’r dreth ar blastigau untro. Os nad oes digwyddiad glanhau traeth lleol yn cael ei gynnal yn eich ardal chi, rhowch gynnig ar yr hybiau casglu sbwriel lleol ac ewch ati i gasglu sbwriel o amgylch eich traeth lleol. 

Beach clean up

Beth yw’r cysylltiad rhwng y môr a Newid Hinsawdd?

Y môr yw’r ddalfa garbon fwyaf ar y blaned; mae’n amsugno’r ynni a'r gwres gormodol a ryddheir o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr cynyddol sydd wedi’u dal yn y ddaear. Mae’r môr wedi amsugno tua 90% o’r gwres a gynhyrchir gan yr allyriadau cynyddol hyn. Mae hyn yn arwain at godiad yn lefel y môr, tonnau gwres morol ac asideiddio’r môr, sy’n effeithio ar ecosystem y môr. 

https://drawdown.org/solutions/recycling