Alert Section

Newyddlen Newid Hinsawdd Rhif 7


Beth ydi Carbon Sero Net?

Mae Carbon Sero Net yn golygu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr hyd yr eithaf, a lle nad oes modd eu lleihau ymhellach, eu cydbwyso drwy dynnu swm cyfwerth o garbon deuocsid o’r atmosffer.

Ysgol Mynydd Isa – Carbon Sero Net ar waith

Mae Ysgol Mynydd Isa’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd a bydd yn ysgol ar gyfer plant 3 - 16 oed. Mae’r ysgol wedi’i chynllunio i fod yn garbon sero net yn ei gweithrediad, sy’n golygu y bydd yr holl ynni a ddefnyddir ar y safle’n cael ei gynhyrchu drwy ynni adnewyddadwy fel paneli solar PV ar y to. Mae’r adeilad yn cael ei ddylunio fel ei fod yn cyrraedd safonau rhagoriaeth BREEAM, sy’n mesur caffael, dylunio, adeiladu a gweithredu yn erbyn targedau sy’n seiliedig ar feincnodau perfformiad. 

Ysgol Mynydd Isa

Mae safonau BREEAM yn canolbwyntio ar werth cynaliadwy ar draws sawl categori yn cynnwys:

  • Ynni
  • Y defnydd o dir / ecoleg
  • Dŵr
  • Iechyd a Lles
  • Llygredd
  • Cludiant
  • Deunyddiau
  • Gwastraff

Wyddoch chi?

Gwahardd Plastig Defnydd Untro

Wyddoch chi bod Llywodraeth Cymru wedi gwahardd gwerthiant a chyflenwad plastig untro? Daeth y gwaharddiad i  rym ar 30 Hydref 2023.

Dyma gam pwysig ymlaen tuag at leihau gwastraff plastig sy’n i niweidiol i’r blaned ac mae’n cynnwys eitemau fel:

  • Gwellt yfed untro
  • Ffyn balŵn untro
  • Cyllyll a ffyrc untro
  • Troellwyr diodydd untro
  • Cwpanau polystyren
  • Bocsys prydau parod polystyren

Dyma'r cam cyntaf tuag at reoli’r defnydd o blastig defnydd untro, bydd yr ail gam yn dod i rym cyn diwedd tymor y Senedd. Cymru ar hyn o bryd yw’r wlad drydedd orau yn y byd o ran ailgylchu gwastraff domestig ac mae’r gyfraith newydd hon yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. 

Single use plastic ban

Y cysylltiad rhwng Newid Hinsawdd a Dŵr

Er bod glaw yn disgyn yn rhydd o’r awyr, dim ond 0.5% o’r dŵr ar y ddaear sy’n ddŵr croyw y gellir ei ddefnyddio, gyda newid hinsawdd yn effeithio ar y cyflenwad hwnnw oherwydd bod:

  • Llifogydd a lefelau’r môr yn codi gan lygru’r tir a chyflenwadau dŵr.
  • Rhewlifoedd, capiau iâ a meysydd eira’n toddi gan effeithio ar reoliad dŵr croyw wrth iddyn nhw fwydo i mewn i lawer iawn o systemau’r afonydd mawr.
  • Mae’r galw cynyddol am ddŵr yn golygu bod angen mwy o  gynhyrchiant sy’n gofyn am lawer iawn o ynni, er enghraifft i bwmpio, cludo a thrin dŵr.

Mae person cyffredin yn defnyddio 176 litr o ddŵr bob dydd - sydd bron yn 310 peint!

Mae Dŵr Cymru’n cyflenwi 828 miliwn litr o ddŵr bob dydd i dros dri miliwn o bobl mewn mwy na 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau ar draws Cymru, Swydd Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy.

Help i arbed dŵr yn y cartref

Mae Dŵr Cymru wedi rhoi cyngor ar sut y gallwch chi arbed dŵr o amgylch y cartref, a ddylai hefyd eich helpu i arbed arian ar eich bil dŵr.

Mae’r awgrymiadau’n cynnwys:

  • Aros nes bod gennych lwyth llawn cyn defnyddio’r peiriant golchi
  • Dim ond rhoi hynny o ddŵr sydd ei angen arnoch yn y tegell
  • Ar ôl yn y gawod am ddim mwy na 10 munud
  • Diffodd y tap wrth i chi lanhau eich dannedd

Cymorth gyda’ch Biliau Dŵr

Wrth i’r argyfwng costau byw barhau mae gan Dŵr Cymru nifer o ffyrdd y gallent o bosibl eich helpu chi a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy. Bwriad eu cymorth ariannol yw helpu cwsmeriaid a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael. 

Ar y gweill!

COP28 - 30 Tach - 12 Rhagfyr

Beth yw COP?

Y COP (Council of Parties) yw uwchgynhadledd newid hinsawdd ryngwladol a gynhelir bob blwyddyn gan y gwladwriaethau (partïon) sy’n aelodau o’r Cenhedloedd Unedig a lofnododd y cytundeb cenedlaethol ar newid hinsawdd. Mae’r partïon hyn wedi ymrwymo i gymryd camau gwirfoddol i rwystro’r hyn sy’n achosi newid yn yr hinsawdd rhag gwaethygu. Bob blwyddyn mae’r COP yn cael ei gynnal mewn gwlad wahanol gyda chynrychiolwyr llywodraethau'n adrodd ar gynnydd, gosod nodau tymor canolig,  rhannu datblygiadau technolegol sydd â photensial i fod â manteisio byd-eang a llunio cytundebau i rannu datblygiadau gwyddonol.

Wythnos Hinsawdd Cymru – 4 - 8 Rhagfyr

Beth ydi Wythnos Hinsawdd Cymru 2022?

Sefydlwyd Wythnos Hinsawdd Cymru yn 2019, i gyd fynd â’r COP, ac roedd yn adeiladu ar y trafodaethau a gafwyd i helpu i annog sgyrsiau cenedlaethol a rhanbarthol ar newid hinsawdd. Mae hefyd yn rhan o ymdriniaeth ymgysylltu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022 - 2026.

Sefydlwyd yr wythnos i ddod a sefydliadau, unigolion, y cyhoedd a’r sector preifat ynghyd i gymryd rhan mewn trafodaethau i rannu dysgu, atebion a syniadau newydd ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd, 

Wales Climate Week

Wythnos Hinsawdd 2023.

Bydd Wythnos Hinsawdd eleni’n cael ei chynnal rhwng 4 - 8 Rhagfyr ar y thema o ‘sut mae mynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg?’,  Bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal cynadleddau rhithiol, rhaglen o ddigwyddiadau ymylol ac yn darparu calendr o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal gan sefydliadau ar draws Cymru.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cymryd rhan yn yr Wythnos  Hinsawdd felly cofiwch edrych ar ein negeseuon Twitter corfforaethol i ddarganfod mwy.

Grantiau Bychain ar gyfer Natur

Mae gennym gyfle cyffrous i gymunedau  Sir y Fflint  wneud cais am grant bach i helpu i achub natur!

Dyma ffordd wych o ddod â’r gymuned ynghyd a dysgu rhagor am beth allwch chi ei wneud i warchod bywyd gwyllt yn eich ardal leol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau, 30 Tachwedd 2023 am 12:00pm.

Os oes gennych ddiddordeb neu unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm bioamrywiaeth Sir y Fflint ar biodiversity@siryfflint.gov.uk