Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Menter Sir y Fflint

Published: 26/07/2017

Yn ddiweddar, fe gynhaliodd Clwb Menter Sir y Fflint ei gyfarfod olaf cyn seibiant dros yr haf. Mae’r clwb wedi helpu dros 100 o bobl leol i sefydlu eu hunain ym myd busnes ers iddo gychwyn bum mlynedd yn ôl. Maer grwp, syn cael ei reoli gan Cymunedau yn Gyntaf, yn cynghori pobl ar gyrsiau a grantiau a allai fod o fudd iw busnes, yn ogystal â darparu mentor perthnasol iw helpu i ddatblygu eu busnes neu syniad. Mae aelodau’r clwb yn amrywio ac yn newid o hyd. Yn y cyfarfod diweddaraf, roedd deg o entrepreneuriaid ar gychwyn eu taith ym myd busnes, a phob un ar gam gwahanol, gyda chyfuniad diddorol o syniadau busnes gwreiddiol. Philipa Birch yw’r ‘Tutu Tailor’ sy’n creu twtws unigryw a hardd a gwisgoedd dawnsio eraill i stiwdios dawns a chleientiaid unigol. Mae hi wedi bod yn masnachu ers mis Rhagfyr 2016. Corinne Farinha yw cyfarwyddwr ‘Elite Equestrian Events’ – cwmni deinamig sy’n cynnig gwasanaeth rheoli digwyddiadau wedi’i deilwra ar gyfer arddangosfeydd, paredau, sioeau, clinigau, digwyddiadau corfforaethol a phriodasau. Mae hi wedi bod wrthi ers mis Hydref 2015 ac mae ar hyn o bryd yn hyfforddi i fod yn hyfforddwr pilates marchogaeth, syn helpu rhai syn marchogaeth ceffylau i wella eu cryfder a’u cydbwysedd. Mae Ralph Carr sydd wedi bod yn berchen ar Blue Box Enterprises ers pedair blynedd. Gwasanaeth ymgynghori gwyddonol yw hwn, syn cynnig atebion cost-effeithiol i faterion technegol a chynhyrchu. Yn ddiweddar, fe gynhyrchodd fêl synthetig o’r enw “SyntHoney”, sydd â holl nodweddion mêl go iawn ac sy’n addas ar gyfer pobl fegan. Mae Sylvain Jacquin wedi bod yn gweithio gyda Ralph am ddwy flynedd ac mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ddatblygu a hyrwyddo gwin ipocras, wedii anelu at y marchnadoedd Nadolig a digwyddiadau ail-greu canoloesol. Mae Joanne Powell ar ddechrau ei thaith i ddatblygu ei busnes, ‘Costumes for Children’, sy’n creu gwisgoedd a phropiau. Bydd Joanne yn gweithio gyda phlant a’r gymuned ehangach i ddod â straeon yn fyw. Nicola Owen ydi perchennog ‘Totem Wings’. Mae hi’n hyrwyddwr iechyd, yn dylinwr proffesiynol, yn iachäwr Reiki ac yn adweithegydd ac mae’n barod i ail-lansio ei busnes ym mis Medi ar ôl seibiant byr. Lansiodd Caroline Lamont ei busnes, ‘Tips on Nails’, yr wythnos yma. Mae Caroline yn dechnegydd ewinedd symudol ac mae hefyd wedi’i hyfforddi i ailadeiladu ewinedd traed ac mae’n cynnig y gwasanaeth hwn hefyd. Symudodd Carol Britnell i Ogledd Cymru o Dover fis Medi ac, ers hynny, mae wedi troi ei chariad at wenyn yn fusnes, a lansiodd yn swyddogol ar 3 Gorffennaf eleni. Mae’n cynnig cynnyrch sy’n gysylltiedig â gwenyn gan gynnwys mêl, llieiniau cwyr, polis a bydd yn fuan yn cynnig eli ac ymweliadau âr cychod gwenyn er mwyn i bobl weld sut maent yn gweithio. Dywedodd Carol: “Mae’r clwb wedi fy nghefnogi am hannog gymaint; mae wir wedi bod yn wych. Mae’r aelodau eraill yn rhannu syniadau ac yn cynnig adborth adeiladol mewn amgylchedd saff. Mae hefyd wedi bod yn gyfle i mi greu ffrindiau, gan fy mod wedi symud i’r ardal yn ddiweddar.” Yn olaf, mae stori o lwyddiant ysgubol Barry Evans, perchennog ‘Evo Lift Safety Products’. Mae Barry wedi creu pum dyfais codi i’w defnyddio yn y diwydiant adeiladu ac mae ganddo batent ar bob un ohonynt. Ar ôl ambell flwyddyn anodd ar ddechrau’r dirwasgiad, fe ddechreuodd pethau wella o ddifri’ yn 2013 ac mae’r busnes bellach yn mynd o nerth i nerth. Roedd Sandra Donaghue o Mingle for Business hefyd yn y cyfarfod. Dros y misoedd diwethaf, mae’r clwb wedi bod yn darparu gweithdai Llwybr i Fusnes gyda Sandra. Mae Mingle for Business yn rwydwaith o weithwyr proffesiynol ac entrepreneuriaid sy’n darparu cymorth busnes a chysylltiadau rhwydweithio effeithiol i rai ym myd busnes ar bob lefel, sy’n cyfarfod yn rheolaidd ledled Gogledd Cymru a Chaer. Cyflwynwyd tystysgrifau i nifer o’r rhai a oedd yno hefyd, am y gweithdai roedden nhw wedi bod ynddynt yn Delyn Safety yn yr Wyddgrug, gan gynnwys cymorth cyntaf, diogelwch tân, ymwybyddiaeth o asesiadau risg, codi a chario a chyfarpar diogelu personol. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: “Fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n cychwyn arni ym myd busnes – neu sy’n meddwl gwneud hynny – i ymuno â Chlwb Menter Sir y Fflint. Mae gweithdai rhagorol i’w cael am ddim yn ogystal â chyfleoedd gwych i farchnata eich busnes. Mae’n le gwych i gael help i ddatblygu syniadau busnes newydd – mi ydw i’n dal i gael fy syfrdanu gan y syniadau busnes anhygoel ac amrywiol sydd gan bobl – ysbrydoliaeth go iawn! Gallwch ddod i’r clwb am ddim ac mae’n cyfarfod pob pythefnos. Cynhelir y cyfarfodydd bob yn ail ddydd Gwener o 10.30am tan 12.30pm. Bydd y cyfarfod nesaf ar 1 Medi yn y Regus Business Lounge ym Mharc Brychdyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Cymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 neu anfonwch e-bost at beverly.moseley@flintshire.gov.uk