Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Enwi’r Cymunedau Taclusaf 2017

Published: 09/08/2017

Mae enillwyr pob categori ar gyfer Cymunedau Taclusaf Sir y Fflint 2017 wedi derbyn eu gwobrau mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Neuadd Y Sir yn ddiweddar. Yr enillydd ar gyfer y pentref taclusaf gyda phoblogaeth o dan 1,000 oedd Bretton Lane gydag Ysceifiog yn yr ail safle. Daeth Llanfynydd yn drydydd. Higher Kinnerton oedd enillydd y gymuned daclusaf gyda phoblogaeth o dros 1000 ac o dan 5000, gyda Chaerwys yn cael yr ail wobr. Daeth Llaneurgain yn drydydd. Mynydd Isa oedd enillydd y wobr Canol Tref Taclusaf, gyda’r Wyddgrug yn ail, ac aeth y drydedd wobr i Dreffynnon. Enillydd ystâd yr henoed taclusaf oedd Ffordd Gwynedd, Llaneurgain, gyda’r ail wobr yn mynd i Llys y Goron yng Nghaerwys. Daeth Belvedere Close, Queensferry yn drydydd a chafodd Heol y Dderwen, Coed-Llai dystysgrif teilyngdod. Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Brian Lloyd: “Fel bob blwyddyn mae’r niferoedd a safon y cystadleuwyr wedi bod yn wych eleni, ac rwy’n siwr bod y beirniaid, Les a Sue Starling a Nancy Matthews wedi ei chael hin anodd dewis yr enillwyr. “Maer pwyslais ar wneud cymunedau yn llefydd gwell i fyw ynddynt, ar gyfer pobl ac ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r gystadleuaeth ond yn digwydd oherwydd y bobl sy’n cymryd rhan ac oherwydd y noddwyr, ac eleni nhw yw Airbus, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Lindop Toyota, Tesco, Toyota Motor Manufacturing (UK) a Warwick Chemicals. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus.” Treuliodd y beirniaid bedwar diwrnod yn ymweld â’r cymunedau a oedd wedi cystadlu, ac roeddynt wedi rhyfeddu ar y gwaith a oedd wedi mynd i mewn i greu gerddi yn yr ysgolion. £100 oedd y wobr gyntaf, £70 am yr ail wobr a £35 am y drydedd wobr. Maer enillwyr eraill wedi eu rhestru isod. Gardd Gymunedol/Ardal Bywyd Gwyllt Taclusaf Y wobr gyntaf: Gardd Byw  Chymorth Greenbank Villas, y Fflint. Yr ail wobr: Chwarel Bryn y Baal Y drydedd wobr: Gardd Capel Quaystone, Cei Connah Tystysgrif Teilyngdod: Swinchiard Brook, Y Fflint a Berllan Gymunedol y Santes Fair, yr Wyddgrug. Eleni roedd 5 ysgol wedi cystadlu fel rhan o’u Cais Cymunedol. Gwobr Cyntaf ar y Cyd (Cymeradwyaeth Uchel) Ysgol Babanod Mynydd Isa (£40 o dalebau Tesco) Ysgol Gynradd Brynffordd (£40 o dalebau Tesco) Trydedd Wobr (Cymeradwyaeth) Ysgol Owen Jones (£20 o dalebau Tesco) Rhoddwyd Tystysgrifau Teilyngdod i: Ysgol Gynradd Derwen, Higher Kinnerton Ysgol Gynradd yr Esgob, Caerwys Nodyn i olygyddion Yn y llun atodedig mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Brian Lloyd, gyda’r enillwyr a’r noddwyr.