Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnig Gofal Plant

Published: 22/09/2017

Bydd Cabinet Sir y Fflint yn cael adroddiad wedi’i ddiweddaru am weithredu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn fuan a bydd gofyn iddo gydnabod y cynnydd a wnaed pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. Roedd Sir y Fflint yn un o chwech Cyngor i fabwysiadu’r cynllun yn fuan, a bydd y cynnig yn cael ei dreialu o fis Medi 2017 ymlaen yn Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Abertawe, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf. Bwriad y cynnig gofal plant 30 awr yw lliniaru effeithiau tlodi a gostwng anghydraddoldeb. Mae’r cynnig wedi’i ddylunio i fod yn gynhwysol ac felly bydd plant ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi i sicrhau eu lle. Mae Sir y Fflint, ynghyd ag awdurdodau eraill, wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu modelau lleol ar gyfer treiglo’r cynnig gofal plant a ariennir yn genedlaethol, ac mae’r plant cyntaf wedi cychwyn y mis yma. Y meysydd cychwynnol ar gyfer peilot Sir Y Fflint yw: Bwcle, Bagillt a Brychdyn ac yn ardaloedd Aston, Cei Connah (Canol a Golftyn), Garden City, Maes-Glas, Shotton Uchaf, Treffynnon (Canol), Mancot, Y Fferi Isaf a Sandycroft. Bydd hyn yn profi’r cynllun mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel ac isel o gyflogaeth, ar draws llwybrau teithio i waith, gan gynnwys teithio tu allan i Gymraeg a drwy gymysgedd o leoliadau a gynhelir a rhai nas cynhelir. Hyd yn hyn, cafodd Sir y Fflint 152 cais ac maent wedi bod yn llwyddiannus wrth fynd drwy’r broses ymgeisio gan alluogi rhieni i gofrestru ar-lein a dewis darparwyr gofal plant cofrestredig o’r 122 o ddarparwyr. Mae’r system ar-lein hon wedi cael ei hadolygu gan Lywodraeth Cymru sy’n nodi ei fod yn gost-effeithiol ac yn cydymffurfio â gofynion diogelu data. Mae’r ffigwr gwreiddiol o 441 o blant yn cael ei ymestyn i 748 o blant o bosib gyda’r bwriad o fanteisio i’r eithaf ar y grant ar gyfer teuluoedd Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint: “Rwyf wrth fy modd fod Sir y Fflint wedi datblygu a gweithredu y cynllun peilot cyffrous hwn ar gyfer plant ifanc a’u rhieni. Mae’r gwaith a wnaed hyd yn hyn wedi bod yn rhagorol ac mae’r gwaith yn parhau i wneud yn siwr bod y cynllun yn llwyddiannus. Mae grwp cynghori wedii sefydlu yn Sir y Fflint ac mae’n cyfarfod yn rheolaidd i ddatblygu’r cynnig a rhoi canllawiau ac arweiniad i dîm y prosiect. Mae’r grwp cynghori yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau fel Dechraun Deg, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Hawliau Cynnar, datblygu gofal plant a sefydliadau sydd dan ymbarél gofal plant. Mae rhai o’r amcanion ar gyfer y dyfodol yn cynnwys: · Parhau i wella’r system ar-lein; · Manteisio i’r eithaf ar y cynnig drwy ei hyrwyddo’n barhaus a chyhoeddusrwydd; a · Cynnal gweithdy i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddarparwyr am ddatblygu’r cynllun yn lleol.