Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwella Llwybrau Troed Sir y Fflint

Published: 17/10/2017

Mae tîm “Hawliau Tramwy” Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar ac wedi cwblhau gwaith i wella llwybr troed cyhoeddus ym mhentref Gwaenysgor. Mae’r tîm wedi gosod llwybr pren 50 metr ar ran o lwybr poblogaidd a oedd yn dueddol o weld llifogydd. Mae’r llwybr pren wedi ei osod ar lwybr sy’n arwain o Ffordd Llyn Goch yng Ngwaenysgor i’r Bryniau. Mae’r gwelliannau yn ychwanegu at y golygfeydd godidog o Ddiserth, arfordir gogledd Cymru ac Eryri. Mae’r llwybr hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Meddai Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae hwn yn ychwanegiad gwych at rwydwaith llwybrau troed Sir y Fflint, a dylid canmol y tîm. Mae gan Sir y Fflint gefn gwlad gwych ac mae gwelliannau o’r fath yn galluogi ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd i brofi’r hyn sydd gan Sir y Fflint i’w gynnig.”