Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn

Published: 24/11/2017

Mae sefydliadau ar hyd a lled Sir y Fflint wedi dod at ei gilydd i gynnal digwyddiadau drwy gydol yr wythnos hon i ddangos eu cefnogaeth i Ymgyrch y Rhuban Gwyn ac i geisio rhoi diwedd ar drais yn erbyn merched. Mae aelodau Cyngor Sir y Fflint, swyddogion, trigolion lleol, asiantaethau partner, gweithwyr adeiladu ac aelodau o’r gwasanaethau tân ymhlith y nifer o bobl sydd wedi bod yn gwisgo rhubanau gwyn i hyrwyddo’r ymgyrch sy’n ceisio rhoi terfyn ar bob mathau o drais yn erbyn merched. Heddiw, ddydd Gwener 24 Tachwedd, ymunodd aelodau Cyngor Sir y Fflint ag asiantaethau partner gan gynnwys Uned Diogelwch Cam-drin Domestig, BAWSO (sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i bobl ddu a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol), Age Concern a Hafan Cymru yng Ngorsaf Dân Queensferry i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn a Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Merched. Roedd digwyddiad a gynhaliwyd ddechrau’r wythnos yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy yn hyrwyddor ymgyrch ymysg pobl ifanc ac yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael. Dangosodd dîm Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir y Fflint eu cefnogaeth drwy wisgo rhubanau gwyn. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd: “Mae Sir y Fflint wedi cefnogi’r ymgyrch hon ers sawl blwyddyn. Mae siarad â phobl ifanc ac esbonior materion yn un or ffyrdd i ledaenu’r neges ac mae gwisgo rhuban gwyn yn ffordd wych arall i ddangos cefnogaeth.” Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Llysgennad yr Ymgyrch Rhuban Gwyn yn Sir y Fflint: “Yn 2014, Sir y Fflint oedd yr Awdurdod Lleol cyntaf yng ngogledd Cymru i dderbyn Gwobr Tref y Rhuban Gwyn ar gyfer Cynghorau. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn merched, a hefyd ein cefnogaeth i ymgyrch ryngwladol y Rhuban Gwyn. Mae trais yn erbyn merched yn gwbl annerbyniol.” Meddai Jackie Goundrey, Cydlynydd Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cyngor Sir y Fflint: “Maer Cenhedloedd Unedig yn cydnabod 25 Tachwedd yn swyddogol fel Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Merched. Maer Rhuban Gwyn yn symbol o obaith am fyd lle gall merched a genethod fyw heb ofni trais. Mae gwisgo’r rhuban yn ymwneud â dynion yn herio derbynioldeb trais, helpu merched i dorrir distawrwydd, ac annog pawb i ddod at ei gilydd i greu byd gwell i bawb.” Mae’r ymgyrch (www.whiteribboncampaign.co.uk) yn gwahodd pobl i addo’u cefnogaeth. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar 01352 702590. Os ydych chi’n dioddef o gam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch linell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 10 800.