Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad ar Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint

Published: 23/11/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y sir ac mae wedi rhyddhau dogfen ymgynghori bwysig, sef y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl. Bydd fersiwn terfynol y CDLl yn darparu canllawiau cynllunio ar ddefnyddio tir rhwng 2015 a 2030. Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn arwain ymlaen o ymgynghoriadau blaenorol – yn enwedig rhai sy’n ymwneud â Thwf Strategol a Dewisiadau Gofodol. Maen cyflwynor dull a ffefrir o ran twf yn y sir a sut, yn fras, y bydd datblygiadau wediu gwasgaru ar ei thraws. Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys creu 8,000-10,000 o swyddi a darparu 6,950 o gartrefi newydd. Mae portffolio o gyfanswm o 223 hectar o dir cyflogaeth yn y Cynllun hefyd. Mae ystod o 16 o bolisïau strategol yn darparu canllawiau ar ystod o bynciau, gan gynnwys tai, cyflogaeth, isadeiledd a’r amgylchedd. Maen cynnwys dau safle defnydd cymysg strategol yn Warren Hall, Brychdyn a Phorth y Gogledd, Glannau Dyfrdwy, sy’n bwysig ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol, o ystyried pwysigrwydd is-ranbarthol ehangach economi Sir y Fflint. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn rhoi cyfle i rai sy’n gysylltiedig roi sylwadau ar asesiad cychwynnol y Cyngor a dweud a yw’r darpar safleoedd yn cyd-fynd yn fras â’r Strategaeth a Ffefrir. Mae cyfle hefyd iddynt gyflwyno safleoedd newydd neu safleoedd eraill i’w hystyried yn rhan o’r ymarfer ymgynghori. Mae’r Cyngor yn ceisio sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir er mwyn llunior fersiwn terfynol, cyn mynd ymlaen i baratoi’r CDLl manwl i’w archwilio gan y cyhoedd, a fydd yn cynnwys polisïau, cynigion, mapiau a dyraniadau tai manwl. Dywedodd y Cynghorydd Chirs Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae’r broses o ddod o hyd i ddyraniadau tai wastad yn anodd ac yn llawn angerdd, ond maen rhaid ir Cynllun ddarparu datblygiadau tai newydd i gwrdd ag anghenion y sir. Rôl a gwerth y Strategaeth a Ffefrir yw sicrhau ei bod yn darparu sail resymegol i ddatblygu’r cynllun manwl arni, er mwyn adeiladu datblygiadau tai mewn lleoliadau cynaliadwy.” Am y tro cyntaf, mae’r ymgynghoriad hwn yn defnyddio system ymgynghori ar-lein sy’n galluogi pobl i weld a gwneud sylwadau ar ddogfen y Strategaeth a Ffefrir ar-lein. Mae’r Cyngor yn awyddus i annog pobl i ddefnyddio’r ffordd hawdd ac uniongyrchol hon o roi sylwadau ar y Cynllun. · Mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i baratoi Cynllun Datblygu Lleol · Maer ymarfer ymgynghori yn mynd am 6 wythnos ac maen rhaid cyflwyno sylwadau erbyn 5.00pm, ddydd Iau 20 Rhagfyr · Gallwch weld y Strategaeth a Ffefrir ar y wefan www.flintshire.gov.uk/ldp/preferredstrategy · Mae sawl papur cefndir a dogfen arall i ategu’r Strategaeth a Ffefrir ac mae’r rheini hefyd ar gael ar y wefan · Gallwch wneud sylwadau drwy ddefnyddio’r porth ymgynghori ar-lein, drwy anfon e-bost, drwy ddefnyddior ffurflen sylwadau neu drwy ysgrifennu atom. · Gallwch gyfeirio unrhyw ymholiadau at 01352 703213 neu developmentplans@flintshire.gov.uk