Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Agor llwybr cerdded newydd yn swyddogol

Published: 11/12/2017

Mae llwybr cerdded newydd ger Warwick Chemicals ym Mostyn wedi’i agor yn swyddogol yn ddiweddar gan Weinidog yr Amgylchedd ac AC Delyn, Hannah Blythyn. Mae’r llwybr 300 metr o hyd yn wyriad ar Lwybr Arfordir Cymru. Cafodd y prosiect ei greu i gael gwared â phont droed dros reilffordd a oedd yn brif rwystr i hygyrchedd y llwybr yn yr ardal hon. Bydd y gwyriad yn caniatáu i fwy o waith datblygu a gwella ar gyfer hygyrchedd barhau ar hyd Llwybr yr Arfordir. Mae bellach yn mynd drwy ddarn coediog braf, gan roi ambell gipolwg ar yr arfordir a dod â cherddwyr yn nes at afon Dyfrdwy. Mae hefyd yn golygu nad oes angen cerdded ar hyd y ffordd. Dywedodd Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Cyflwynodd tîm Cefn Gwlad Sir y Fflint y syniad o lwybr cerdded i Warwick Chemicals, a fu’n gwbl gefnogol ir cynlluniau, ac roedd hynny’n ein caniatáu ni i fynd ati i sicrhau cyllid gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu a’i gyflawni gan ein warden arfordirol, Tim Johnson.” Dywedodd Hannah Blythyn: “Mae’n rhoi pleser mawr i mi agor y darn newydd hwn o Lwybr yr Arfordir yn swyddogol. Fe wnaeth Cymru yn llythrennol dorri tir newydd yn 2012 pan ddaeth hir wlad gyntaf drwyr byd i gyd i adeiladu llwybr cerdded ar hyd ei harfordir cyfan. “Mae’r prosiect hwn wedi parhau’r arfer o weithio mewn partneriaeth, sydd wedi bod yn hanfodol i ddatblygu’r llwybr eiconig hwn. “Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi bod yn llwyddiant syfrdanol a rwan bydd hyd yn oed mwy o bobl yn gallu mwynhau mwy on harfordir an coetiroedd hardd.” Aeth Tim Johnson yn ei flaen i ddweud: “Roedd yn waith caled ar y cychwyn ond mae’r canlyniadau’n wych. Mae Warwick Chemicals wedi bod yn arbennig ac wedi cefnogi’r syniad a’r prosiect o’r cychwyn un. Fe ddaeth at ei gilydd yn dda iawn pan ddechreuodd y gwaith ymarferol. Roedd crefft a gweledigaeth y contractwr, Arwyn Parry, yn help i hynny. Llwybr cerdded yw’r llwybr ar hyn o bryd gydag arwyddion ac wyneb priodol arno, sydd o fudd i gerddwyr lleol ar rhai syn defnyddio Llwybr yr Arfordir.