Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd

Published: 17/05/2018

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael cais i gymeradwyo mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ffurfiol pan fydd yn cyfarfod ar Ddydd Mawrth 22 Mai. Gofynnir ir Cabinet wneud hyn fel y bydd pwyslais yn cael ei roi arnynt fel ystyriaeth gynllunio o bwys wrth ystyried ymholiadau cynllunio, ceisiadau ac apeliadau perthnasol. Mae’r CCA wedi’u paratoi ar y cyd gan Gynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam ac maent wedi bod yn destun ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol. Maent yn cael eu hargymell ar gyfer eu mabwysiadu gan bob un o’r tri Awdurdod Cynllunio Lleol. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae’r canllawiau wedi eu drafftio fel eu bod yn hawdd iw darllen, gyda lluniau a darluniau addas, er hynny maent yn parhau i ddarparu canllawiau cadarn. Y bwriad yw i gynnal a gwella ansawdd datblygiad yn ac o amgylch yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac i sicrhau fod yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ystyriaeth ddylunio yn y cyfnodau cynharaf o ddylunio a datblygu.”