Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Claddu Capsiwl Amser yn Ysgol Uwchradd Cei Connah

Published: 12/07/2018

2018-EY-0025-JS.jpgFe fydd capsiwl amser Ysgol Uwchradd Cei Connah yn rhoi cipolwg ar 2018 i genedlaethau’r dyfodol.

Yn ddiweddar fe groesawodd Ysgol Uwchradd Cei Connah gynghorwyr lleol, gan gynnwys Cadeirydd Cyngor Tref Cei Connah Pam Attridge, sefydliadau partner, swyddogion o’r Sir, staff a myfyrwyr i seremoni capsiwl amser ar safle’r adeilad newydd.

Mae’r gwaith o godi’r adeilad newydd wedi hen ddechrau ac roedd hwn yn gyfle i ymgynnull ar y safle i ddathlu’r ysgol heddiw trwy sicrhau y bydd detholiad o wrthrychau perthnasol, gan gynnwys cardiau post, siwrnalau yn dangos “diwrnod ym mywyd yr ysgol”, straeon lluniau o fywyd Cei Connah, newyddlenni a rhaglenni diwrnod chwaraeon, ar gael i fyfyrwyr yfory pan fyddant yn agor y capsiwl amser yn 2050. Bydd yr adeilad newydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2018.

Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, cynghorydd Sir lleol ar gyfer Golftyn Cei Connah a Chadeirydd y Llywodraethwyr:2018-EY-0026-JS.jpg

“Roedd hi’n wych cael cyfle i siarad gyda disgyblion a gweld yr holl newidiadau trawiadol sy’n digwydd. Roeddwn i’n arbennig o falch o gael cyfle i fod yn rhan o baratoadau’r plant i gladdu’r capsiwl amser roeddynt wedi’i lenwi â phethau oedd yn bwysig iddynt. “Gobeithio y bydd hyn yn rhoi cyfle i blant yr ysgol yn y dyfodol gael gweld beth roedd y myfyrwyr presennol yn ei gredu oedd yn bwysig iddynt a gweld sut mae pethau wedi newid.”