Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Melin Goed ym Mharc Gwepra
Published: 29/07/2014
Mae ceidwaid ym Mharc Gwepra wedi bod yn torri coed sydd wedi disgyn yn
defnyddio melin goed symudol er mwyn gwneud gwaith adeiladu ar draws y parc, yn
defnyddio cyfran o grant o £583,400 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Coed llarwydd ydynt o goetir yng Ngwepra sy’n cael eu torri er mwyn atal
lledaeniad y clefyd phytophthora ramorum.
Roedd y felin goed symudol yn y parc am dri diwrnod ym mis Mehefin yn estyllu
coed llarwydd i’w defnyddio i orchuddio’r ganolfan ymwelwyr a chynnal a chadw
arwyddbyst, ffensys, meinciau a byrddau.
Mae coetiroedd ym mhob rhan o’r sir yn cael eu teneuo neu eu torri er mwyn
gostwng lledaeniad clefydau neu fel rhan o gynlluniau rheoli coetiroedd.
Defnyddir y pren ar gyfer amryw o wahanol brosiectau cynaliadwyedd yn ogystal â
chynnal a chadw yng Ngwepra. Mae’n werthfawr iawn o ran biomamrywiaeth yn y
goedwig ac mae’r ceidwaid yn aml yn creu pentyrrau tocion ym mhob rhan o gefn
gwlad.
Gall pren dros ben ymddangos fel pe bai’n ddi-eisiau ond gall unrhyw un sy’n
mynd â choed heb ganiatâd gael eu cyhuddo o ddwyn ac mae Gwasanaeth Cefn Gwlad
Sir y Fflint yn rhybuddio pobl i beidio â chael eu dal allan.
Mae achosion o ddwyn coed wedi’u cofnodi ym Mharc Gwepra a Threffynnon a bu
digwyddiad ym Mharc Etna ym Mwcle a arweiniodd at breswylydd yn derbyn rhybudd
gan yr heddlu ar ôl iddo symud coed o bentwr a oedd yn ymddangos fel coed dros
ben.
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd:
“Mae’n braf iawn gweld fod y ceidwaid yn gallu defnyddio’r coed sydd wedi’u
torri mewn ffordd gynaliadwy gan wella biomarywiaeth y coetiroedd ar yr un
pryd.
“Fodd bynnag mae dwyn coed yn bryder i ni a gofynwn i’r cyhoedd roi gwybod i’r
awdurdodau os gwelant unrhyw un di-awdurdod yn dwyn coed tân.”
Ffoniwch Barc Gwepra ar 01244 814931 neu ffoniwch yr heddlu ar 101 os hoffech
roi gwybod am unrhyw ymddygiad amheus.
Llun: Melin goed symudol ym Mharc Gwepra.