Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfri’ i lawr at Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2018

Published: 13/09/2018

Bydd cannoedd o wirfoddolwyr yn dod at lannau Afon Dyfrdwy a’r ardaloedd o’u hamgylch dros yr wythnos nesaf ar gyfer digwyddiad glanhau blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2018, sy’n cychwyn ddydd Gwener 14 Medi. 

 

Bydd y digwyddiad, sydd wedi’i gynnal bob blwyddyn ers deuddeng mlynedd, yn dod â Chyngor Sir y Fflint a’i gymdogion ynghyd, sef Dwyrain Swydd Gaer a Chaer, Sir Ddinbych, Wrecsam a Swydd Amwythig a Chyfoeth Naturiol Cymru i weithio gyda gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol, grwpiau cadwraeth a busnesau ar draws y rhanbarth i glirio sbwriel o’r afon, twtio’r ardaloedd ar hyd ei glannau a phlannu bylbiau a phlanhigion y maes.

Mae tua 40 o sefydliadau’n rhan o’r digwyddiad glanhau yn Sir y Fflint, gan gynnwys Cadwch Gymru'n Daclus, Ysgol Bryn Pennant, Cyfeillion Blaendraeth Bagillt, Sustrans, ENI, Kingspan, Grwp Sgowtiaid Treffynnon, Cyfeillion Parc Gwepra, McDonald’s, Tesco, Toyota, Warwick Chemicals ac Airbus. 

 

Dyma rai o’r gweithgareddau glanhau sy'n cael eu cynnal:

•             Dyffryn Maes Glas yn gweithio gyda grwp ARCH i glirio rhannau o Ddyffryn Maes Glas (14/9/18)

•             Codi sbwriel o bont Penarlâg at bont Saltney Ferry gan Sustrans (14/9/18)

•             Kingspan a Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint ar Ddoc Maes Glas (14/9/18)

•             Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, Gardd Gymunedol Bagillt a Chyfeillion Blaendraeth Bagillt yn clirio Bettisfield, Bagillt (15/9/18)

•             Sgowtiaid Treffynnon a cheidwaid Dyffryn Maes Glas yn codi sbwriel a thacluso Dyffryn Maes Glas a Doc Maes Glas (15/9/18)

•             Ysgol Bryn Pennant, Warwick Chemicals a Chyngor Sir y Fflint yn bywiogi Llwybr Arfordir Cymru drwy blannu bylbiau a hau hadau (17/9/18)

•             Tesco a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn codi sbwriel ac yn torri llystyfiant ym Mhwynt y Fflint (18/9/18) 

•             Cyfeillion Parc Gwepra a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn codi sbwriel yn Nant Gwepra ym Mharc Gwepra (18/9/18) 

•             McDonalds a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn clirio sbwriel tipio anghyfreithlon ar hyd Llwybr Arfordir Cymru (19/9/18) 

•             Diwrnod glanhau cymunedol yn Nhalacre gyda Cadwch Gymru'n Daclus ac ENI (19/9/18)

•             Toyota’n ymuno â Groundwork a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint i dorri llystyfiant yng Nghei Connah (20/9/18)

Eleni, bydd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn Sir y Fflint hefyd yn tynnu sylw at broblemau sy’n cael eu hachosi gan blastig morol gyda sesiwn gasglu sbwriel wirfoddol rhwng Saltney a Queensferry dan arweiniad Ceidwaid Arfordirol Cyngor Sir y Fflint ddydd Sadwrn, 15 Medi rhwng 11am a 2pm. I gael gwybod mwy ynglyn â sut i gymryd rhan, cysylltwch â Chanolfan Ymwelwyr Parc Gwepra ar 01352 703900.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad:

“Eto, mae cymaint o bobl a busnesau eisiau bod yn rhan o Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy a helpu i warchod ein cefn gwlad. Fel bob tro, mae’r gwirfoddolwyr sy’n rhan o’r digwyddiad blynyddol hwn i glirio amgylchedd morol arbennig Afon Dyfrdwy’n bwysig i sicrhau bod ein harfordir yn lân ar gyfer ymwelwyr a bywyd gwyllt.

“Hoffwn ddiolch i bawb fydd yn cefnogi Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2018. Mae'ch ymdrechion ardderchog chi wir yn gwneud gwahaniaeth.”