Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Iechyd a Lles Blynyddol Sir y Fflint

Published: 08/06/2023

Chwilio am Gefnogaeth? Angen cyngor am beth sydd ar gael yn lleol i helpu gyda chyflwr iechyd sydd gennych chi?

Dewch draw i ddigwyddiad Iechyd a Lles Sir y Fflint yn Neuadd Ddinesig Cei Connah i weld beth sydd i’w gynnig yn yr ardal.

Bydd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint a’r Ganolfan Byd Gwaith yn dod â darparwyr gofal iechyd lleol sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau ynghyd yn Neuadd Ddinesig Cei Connah o 10am tan 2pm ddydd Iau 15 Mehefin 2023. 

Dywedodd Kim Acton, Ymgynghorydd ar Gyflogaeth i Bobl Anabl ac un o drefnwyr y digwyddiad:

“Dechreuodd y digwyddiad yn 2015 ac mae wedi rhoi cymorth i lawer o bobl leol. Gall y digwyddiad hwn ddenu hyd at 400 o bobl.  Mae wedi cael ei ddatblygu i helpu pobl yn Sir y Fflint sy'n byw â chyflwr iechyd, neu sy'n gofalu am rywun â chyflwr iechyd, ac mae'n dod â'r darparwyr at y bobl, gan roi cyfle am sgwrs wyneb yn wyneb.  

Cefnogwyd y digwyddiad diwethaf (cyn covid) gan 33 o sefydliadau gofal iechyd a ddarparodd gyngor a chefnogaeth i dros 400 o drigolion lleol”.

Bydd yno ddigonedd o gyngor ymarferol ar gael. Ymhlith y materion iechyd o dan sylw fydd gofal iechyd meddwl, diabetes, nam ar y golwg a’r clyw, mudiadau gofalwyr, anableddau dysgu, cymorth i gyn-filwyr ac ati. 

Bydd cyfleoedd hefyd i drafod gwirfoddoli gyda mudiadau lleol.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kim yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07717 867211.